Pethau’n ddu ar Alun Cairns?

Dyw pethau ddim yn edrych yn dda iawn i Alun Cairns wrth iddo ymladd i gadw ei le fel ymgeisydd seneddol y Torïaid ym Mro Morgannwg. Petai’n ymgeisydd yn Llundain, yn hytrach nag mewn ardal ddiarffordd fel y Fro mae’n siŵr y buasai wedi gorfod rhoi’r gorau iddi’n barod. Byddwn hefyd yn fodlon dadlau y [...]

“WE WOULD LIKE TO WISH YOU A HAPPY AND PEACEFUL SOLSTICE”

Dyna oedd neges English Heritage i’r miloedd ar filoedd oedd wedi ymgasglu fore Sadwrn diwethaf i yng Nghôr y Cewri.

Fel un a anwyd yn Sir Benfro ac a fagwyd yng nghysgod Carmenyn, mae’r hyn sy’n digwydd yn Stonehenge wastad wedi bod o’r diddordeb mwyaf i mi. I’r rhai nad ydyn nhw’n sylweddoli hynny mae’n [...]

Llwyddiant i Gymro

Ers sawl blwyddyn bellach mae’r papur newydd The Independent on Sunday wedi bod yn cyhoeddi’r “pink list”, sef rhestr o ddynion hoyw a lesbiaid mae’r papur hwnnw yn eu hystyried fel y rhai mwyaf dylanwadol. A heddiw mae rhestr 2008 wedi’i chyhoeddi. Ac yno yn rhif mae Nigel Owens y dyfarnwr rygbi rhyngwladol o Fynyddycerrig. [...]

Llafur yn fethdalwyr?

Dwi ddim yn un sy’n darllen y papurau Sul fel arfer heblaw am yr atodiadau teithio a busnes. Ond roedd ‘na un stori fawr yn yr Observer heddiw wnaeth dynnu fy sylw, sef awgrym fod y Blaid Lafur Brydeinig, New Labour, ar y ffordd i dre-din. O dan y pennawd Labour heads for financial collapse [...]

Cinio dydd Sul yn Llanbadarn Fawr

Wedi gwasanaeth y Cymun Bendigaid y bore ‘ma bues i yng ngwesty Llety Parc er mwyn cael cinio dydd Sul. Roeddwn i a DML wedi cael lifft yno gan ein cyfaill caredig RO. Y rheswm am fynd i Lety Parc oedd am fod y cinio dydd Sul yn rhan o ymgyrch Pwyllgor Apêl Llanbadarn Fawr [...]

Gweld Aberystwyth o bersbectif gwahanol

Mae bod yn gynghorydd tref yn medru newid persbectif dyn ar fywyd. Os oeddwn i’n arfer bod yn un oedd yn cerdded o gwmpas yn edrych lan dwi’n ofni bod fy llygaid wedi eu troi tuag at i lawr yn aml iawn bellach. Does gen i fel cynghorydd dim rheolaeth o gwbwl dros yr haul, [...]

Maer newydd Aberystwyth

Cafodd Sue Jones-Davies ei hethol yn faer Aberystwyth heno, yn dilyn wythnosau o ansicrwydd. Nid dim ond yn San Steffan neu ym Mae Caerdydd mae ‘na bethau cyffrous yn digwydd. Heno yr oedd Cyngor Tref Aberystwyth yn gorfod trafod y tro diweddaraf ym mywyd gwleidyddol y dref wythnos ers i Lorrae Jones-Southgate ymddiswyddo fel maer.

Yn [...]

Addas i fod yn AS? Addas i fod yn AC?

Mae’n bosib bod darllenwyr cyson y blog yn gwybod yn gwybod yn barod nad oes gen i lawer o amynedd gydag Alun Cairns AC. Efallai bod y ffaith ei fod yn Dori o Glydach yn rhywbeth i’w wneud â’r peth; mae’r ffaith ei fod wedi bod yn gweithio i Lloyds TSB hefyd yn cyfri yn [...]

Enwebiadau ward Rhediol wedi cau

Mae’r enwebiadau wedi cau ar gyfer is-etholiad cyngor sir ward Rheidol, Aberystwyth. A dyma’r ymgeiswyr.

Aled Davies Plaid Cymru
Richard Boudier Llafur
Alec Dauncey Democratiaid Rhyddfrydol
Luke Evetts Ceidwadwyr
Carol Ann Kolczak Annibynnol

Yn yr etholiad diwethaf (Mai 2008) dyma oedd y canlyniad.

Eric Griffths Democratiaid Rhyddfrydol 490
Sue Jones-Davies Plaid Cymru 197
Jason Luke Edwards Ceidwadwyr 38

(Dim pleidlais eto)

Deddf iaith i Nunavut

Mae cynulliad deddfwriaethol Nunavut yng Nghanada newydd pleidleisio o blaid deddf iaith newydd yn gwneud yr iaith Inuit yn gyfartal â Saesneg a Ffrangeg yn y rhanbarth. Pan bleidleisiodd y cynulliad yn unfrydol o blaid y mesur cafwyd curo dwylo brwd. Am y tro cyntaf yn hanes Canada bydd gan yr iaith Inuit statws ac [...]

Protest David Davis yn “wastraff arian”?

Fe wnaeth Blog Aber Dar dynnu sylw at fy nisgrifiad o weithred David Davis fel “gwastraff arian” yn ei sylw ar fy nghofnod “Beth mae David Davis yn ei wneud”, ac fe holodd gwestiwn digon teg “Ai wyt ti’n gwneud yr un peth pan fod Cymdeithas yr Iaith (neu unrhyw grŵp arall mi wyt ti’n [...]

Beth mae David Davis yn ei wneud?

Mae’n rhaid ei bod hi’n dymor ar gyfer ymddiswyddiadau gwleidyddol, o leiaf yn Aberystwyth a Haltemprice a Howden. Efallai taw fasiwn yw hyn, ond mae’n rhyfedd sut mae ymddiswyddo yn medru digwydd am bob math o wahanol resymau. Dwi’n ofni nad ydw i’n gweld llawer o bwynt i’r hyn mae David Davies yn ei wneud. [...]

Blodau’r Sul

Dogfael oedd yn gyfrifol am roi’r blodau yn Eglwys S Mair ddydd Sul diwethaf. Dyma nhw.

(Dim pleidlais eto)

Gwleidyddiaeth ddiddorol Aberystwyth

Mae’n siŵr ddigon fod llygaid y byd ar ragetholiadau ac etholiad arlywyddol y Taleithiau Unedig, ond dylai rhywun gadw rhyw gilolwg ar yr hyn sy’n digwydd yn Aberystwyth? Wrth i’r byd gwleidyddol ddechrau paratoi am yr haf trwy dawelu ychydig ar ôl etholiadau’r cyngor sir ddechrau Mai mae’n ymddangos fod popeth yn digwydd yn y [...]

Paratoi ar gyfer yr eisteddfod

Gweld map mwy o faint

Dechrau’r wythnos daeth cadarnhad fod ein llety yn iawn ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ac fe ddechreuodd cyffro lenwi fy meddwl. Rydyn ni’n bwriadu aros mewn neuadd breswyl sydd yn agos at faes yr eisteddfod. Mae’n ddigon agos i mi ystyried ymweld yn fwy aml na fydda i fel [...]

Isetholiad Rhediol, Aberystwyth

Mae’r ymgyrch wedi dechrau mewn gwirionedd yn yr isetholiad cyngor sir yn ward Rheidol yn Aberystwyth. Fel y gŵyr pawb bellach fe ymddiswyddodd cynghorydd Democrataidd Rhyddfrydol y ward o fewn mis i’w ethol ar ôl iddo gael ei arestio gan yr heddlu a derbyn rhybudd.

Mae unrhyw isetholiad yn gynhyrfus wrth gwrs, ond yng Ngheredigion mae’r [...]

Beth mae prif weinidog Canda yn ei ddarllen?

Fe wnes i ddysgu rhwybeth diddorol iawn heno wrth ddarllen papur newydd y Guardian ar-lein. Roedd ‘na flog yno ar pa lyfrau dylai gwleidyddion eu darllen. Ac mewn ymateb dyma rhywun yn postio sylw am sut mae’r awdur Yann Martel, enillydd gwobr Man Booker yn 2002, sy’n anfon llyfr at brif weinidog Canada bob pythefnos. [...]