Roeddwn i ffwrdd am dipyn yr wythnos diwethaf a fe ddes i yn ôl i fwrlwm cystadleuaeth cân Eurovision ac felly dwi heb gael cyfle i drin a thrafod dau beth pwysig a ddigwyddodd – rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop ac isetholiad Crewe a Nantwich.
Roeddwn i’n teithio’n ôl ar y trên i Aberystwyth pan roedd y gêm rhwng Chelsea a Manchester United yn cael ei chwarae ym Moscfa, ond roeddwn i’n ôl yn y tŷ mewn amser i’r amser ychwanegol a’r ciciau o’r smotyn. O diar! Dyna boenus! Dwi fel arfer yn gwrando ar gemau pêl-droed ar y radio yn hytrach na’u gwylio ar y radio gan ei bod yn achosi llai o ofid i mi. Ond pan mae’n dod i giciau o’r smotyn dwi’n gorfod ‘gwylio’ ar y rhyngrwyd, roeddwn i’n arfer gwylio ar CEEFAX slawer dydd cyn bod sôn am y we. Roeddwn i’n ‘gwybod’ nad oedd pethau yn mynd i fynd yn iawn i Chelsea ond roedd y munudau yn arwain at fuddugoliaeth Manchester United yn rhai poenus iawn oherwydd roedd hi wastad yn bosib i rywbeth fynd o’i le a Chelsea yn cipio’r wobr. Roedd y modd y collodd Chelsea yn druenus, a dagrau John Terry wedyn yn ddigon i doddi’r galon galetaf. Ond dyna ni, dyna beth yw dilyn Chelsea: dysgu colli.
Un arall wnaeth ddysgu colli yr wythnos diwethaf oedd Gordon Brown. Ac mae’n dda meddwl ei fod yn cydymdeimlo gyda John Terry i’r graddau iddo ysgrifennu ato i ddweud hynny. Dwi’n ofni nad ydw i’n mynd i wneud yr un peth i Gordon Brown. Mae’n rhyfedd meddwl ei bod hi’n edrych yn debyg y bydd y Torïaid yn ennill yr etholiad nesaf ac mae’n fy llenwi â gofid os yw hi’n golygu eu bod nhw’n mynd i fod yn waeth na Llafur. Ond mae Llafur wedi bod cynddrwg â’r Torïaid ar gymaint o bethau dros y blynyddoedd diwethaf fel bod fy ngofid dipyn yn llai nag y gallai fod. Dwi’n cydnabod eu bod nhw wedi gwneud llawer iawn sy’n bositif ac er lles pobl gyffredin, ac yng Nghymru mae’n rhaid cydnabod taw heb lywodraeth Lafur na fuasai’r Cynulliad Cenedlaethol wedi’i sefydlu. Ond maen nhw hefyd wedi cau eu hunain mewn i dwll ariannol wrth dderbyn syniadau Torïaidd / Daily mailaidd ar drethi, ac yn sgil hynny wedi mabwysiadu llawer o bolisïau cymdeithasol sy’n adlewyrchu’r dylanwad hwnnw. Mewn rhyw ffordd maen nhw wedi gwneud gwaith y Torïad drostynt ar rai materion hanfodol – cardiau adnabod, talu am addysg mewn prifysgol, mynd i ryfel anghyfreithlon, gadael i’r gor-gyfoethog besgi – ac o’r herwydd gwthio’r Torïaid yn bellach i’r dde. Maen nhw wedi ymddangos i fod yn ofni barn y miliwnyddion sy’n dewis byw yn Llundain i osogi trethi uchel yn hytrach na barn eu cefnogwyr naturiol. Nawr beth allan nhw ei wneud i adennill cefnogaeth? Dwi’n ofni nad oes ateb gen i.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael