Terry Wogan ac Eurovsion

Eurovision 2008 (15)

Dwi’n troi yn ôl at gystadleuaeth cân Eurovision ar ôl clywed fod Syr Terry Wogan wedi pwdu yn dilyn canlyniad nos Sadwrn. Mae’r Guardian yn adrodd yr hanes heddiw o dan y teitl “Eurovision contest voting is no laughing matter, says Wogan”. Yn yr erthygl mae Wogan a Bruce Forsyth yn cwyno taw dim ond gwleidyddiaeth sy’n gyrru’r gystadleuaeth bellach a dim ystyriaethau cerddorol. Hoffwn i wybod ers pryd mae hynny’n wir, oherwydd creadigaeth wleidyddol yw’r gystadleuaeth yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, a gwleidyddiaeth sydd wedi gyrru’r gystadleuaeth ers hynny. Dwi ddim yn cofio Syr Terry yn holi pam nad oedd Cymru neu Gatalwnia yn rhan o’r gystadleuaeth dros y blynyddoedd. Dwi ddim yn cofio’r sylwebyddion yn holi pam bod Portiwgal a Sbaen yn cael bod yn rhan o’r peth gyda’i llywodraethau unbenaethol. Dere ‘mlaen Syr Terry.

Cwyn fawr Syr Terry a’i gyfeillion yw bod y Deyrnas Gyfunol ar y gwaelod a Rwsia ar y brig. Ei ddehongliad gwleidyddol ef o’r sefyllfa yw “I’m afraid nobody loves the United Kingdom … is it funny any more?” Mae ‘na ddehongliad cerddorol arall posib. Doedd neb yn adnabod canwr cân y Deyrnas Gyfunol; ar y llaw arall mae Dima Bilan, canwr cân Rwsia, yn seren y byd canu poblogaidd yn ei wlad ei hun – mae wedi ennill pob math o wobrau yno gan gynnwys canwr y flwyddyn MTV Rwsia – ac hefyd yn seren ymhlith siaradwyr Rwsieg yn gyffredinol. Ble mae siaradwyr Rwsieg yn byw y tu fas i Rwsia, yn y gweriniaethau oedd yn arfer bod yn aelodau o’r Undeb Sofietaidd. Dwi’n teimlo braidd yn dwp yn gorfod dweud rhywbeth mor amlwg hyn a gwybod taw dim ond ffyddloniaid Blog Dogfael fydd yn ei ddarllen ac sy’n deall hyn yn y lle cyntaf, tra bod Syr Terry wedi cael cynulleidfa o 9.3 miliwn ar gyfer ei sylwadau afresymol os nad boncyrs yntau. Mae yntau’n poeni nad oes neb yn “ein caru ni”, a hynny ar ôl oes o dreulio pob cystadleuaeth yn defnyddio ei sylwebaeth i daflu ei sylwadau dilornus at bob un o’r caneuon heblaw am “ein cân ni”. Defnyddied ychydig o synnwyr!

Yn dilyn cystadleuaeth llynedd fe osododd yr aelod seneddol Lib Dem Richard Younger-Ross gynnig yn Nhŷ’r Cyffredin yn condemnio’r pleidleisio yng nghystadleuaeth cân Eurovision fel ‘jôc’. Yn ddiddorol iawn un o’r bobol a arwyddodd y cynnig hwnnw oedd Betty Williams, AS Conwy. Mae’n debyg fod pethau eraill gan ddau ohonyn nhw feddwl amdanynt eleni.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 1 allan o 5)

Sylwadau 1

  1. ceri wyn sy wedi dweud:

    Gwyddel yw Syr Terry sydd wedi troi’n blydi Sais erbyn hyn. Ma’r ‘ni’ ma fa’n lico iwso yn gwed y cwbwl ac ynta’n son am wleidyddiaeth y peth!!

    Postiwyd 26 Mai 2008 am 21:37

Gwneud sylw

Ni chaiff dy gyfeiriad e-bost fyth mo'i gyhoeddi na'i rannu. Nodir y meysydd hanfodol gyda *