Mae canlyniadau y pleidleisio yn cael eu cyhoeddi. Mae’r diwedd yn dod yn nes. Dim llawer o obaith fod Bosnia yn mynd i ennill. Ond dwi’n synnu i weld Groeg a Rwsia ar y brig. Dyna ni dwi ddim yn meddwl yr un peth â gweddill poblogaeth Ewrop mae’n amlwg. O leia roedd y dyn wnaeth ganu dros Rwsia dynnu ei grys! Mae’n dda hefyd i weld fod solidariaeth ranbarthol yn dal i fod yn gryf. Dwi’n gobeithio fod Syr Terry Wogan yn colli ei limpyn yn lân gyda’r pleidleisio hyn. 3 gwlad i fyd ac mae’n edrych yn debyg taw Rwsia sy’n mynd â hi.
Does dim gobaith i neb ddal Rwsia bellach, felly nhw sydd wedi ennill cystadleuaeth cân Eurovision 2008. Mae’n amlwg ei bod hi’n talu i agor eich crys a dangos eich brest – doedd y gân yn gwneud dim i mi.
Dyna’r cyfan drosodd am flwyddyn arall.


![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[LinkedIn]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/linkedin.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
Gwneud sylw