Eurovision 2008 (5)

Portiwgal. Du a gwyn, Portiwgaleg. Cymysgedd dda, ond ddim yn taro deuddeg.

Latfia. Môr ladron. Disco. Cymysgedd anhyfryd. Roedd mwy o siâp ar Barti Ddu nag ar y rhain. Dwi ddim yn rhy siŵr pam roedd y wlad am ei hannibyniaeth er mwyn gwneud hyn ar y llwyfan rhyngwladol. Efallai taw dyma’r gwaethaf hyd yn hyn.

Eurovision 2008 (9)

Sweden. Na! Dewch yn ôl Abba, maddeuwyd popeth ichi.

Cân Denmarc, ond fe allai fod yn gân unrhyw le mewn gwirionedd. Dyw hi ddim yn ffôl ac mae’r gân yn swnio’n debyg i gân a allai ennill y gystadleuaeth.

Eurovision 2008 (11)

Dyna siom yn Georgia. Mae ganddi draddodiad o gerddoriaeth cynganeddol ryfeddol ac maen nhw’n penderfynu rhoi hyn o’n blaenau.

Mwy o siom fyth yng nghân Wcráin. Dros y blynyddoedd maen nhw wedi bod yn dod â chynigion diddorol i’r gystadleuaeth. Ond beth yn y byd mawr yw hyn? Sbwriel!

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>