Pa fodd y syrthiodd y cedyrn! Dyma sgandal ieithyddol y noson. Ffrainc yn canu eu cân yn rhannol mewn Saesneg. Beth fyddai France Gall yn ei ddweud? Er taw yn enw Luxembourg yr enillodd hi y gystadleuaeth dwi’n credu y byddai hi’n poen rhyw ychydig. Ac ar ôl hynny i gyd doedd y gân ddim yn werth ei chanu.
Sŵn dechrau cân Azerbaijan yn f’atgoffa i ychydig o Barcelona! Freddie Mercury a Monsterat Caballe. Yna’n sydyn mae’n troi yn anthem gothaidd. Arllwys y gwin/gwaed dros un o’r menywod? Dwi ddim yn deall hyn o gwbwl. Mae’n rhaid eu bod nhw’n meddwl fod rhywun yn mynd i fwynhau’r fath hyn o beth. Mae hyn yn wahanol iawn i Buks Fizz.
Rhoes Gwlad Groeg Socrates, Platon, Aristoteles… a Kalomira i’r byd! Dwi ddim yn rhy siŵr a ddylen nhw gael ‘Marblys’ Elgin (chwedl y BBC) yn ôl wedi’r perfformiad hyn.
Dyw Sbaen ddim llawer yn well. Ond o leiaf doedden nhw ddim yn canu mewn Saesneg (bron).
A nawr, Serbia. Mae’r dorf yn eu hoffi. Mae’n swnio’n weddol i ddechrau. Ychydig bach yn rhy ddramatig – angen rhoi mwy o sylw i’r gân. Mae fel petai’n mynd i ddechrau troi’n dda ond mae’n parhau i ddechrau. Dwi ddim yn deall.
Rwsia nesaf. Mae’r diwedd yn agos. Ai Putin wnaeth ddewis y gân hon ei hun? Mae’n rhaid bod rhyw reswm am ddod â rhywbeth fel hyn i’r gystadleuaeth.
Mae’r cyfan yn dibynnu ar Norwy bellach. A wel, ddim y tro hwn efallai. Nid Bobbysocks oedd y gân hon.
Felly Bosnia amdani. Efallai Armenia, Twrci. Dim ond disgwyl nawr. Dwi’n mynd i bleidleisio trwy SMS.






![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael