Mae’r grŵp nesaf o ganeuon yn dechrau gydag Israel. Cân hanner mewn Hebraeg ond gyda chyffyrddiad o Saesneg. Pam?
Mae’r gân nesaf yn fwy tebyg iddi. Y Ffindir mewn Ffineg ac yn canu cân sydd yn gwbl groes i’r diddimrwydd rydyn ni wedi clywed yn gyffredinol tan hyn.
Croatia. Mae hon yn bendant mewn Croateg. Ond mae fel petai wedi’i hysgrifennu ar gyfer y 1950au. Dwi’n gwybod fod ‘retro’ yn boblogaidd, ond dwi’n methu gweld pobol Ewrop yn dewis hon fel enillydd y gystadleuaeth. Ond da iawn nhw. Ac mae’n dda gweld hefyd nad oes gwahaniaethu ar sail oed yn y gystadleuaeth.
Os dyma’r fath o ganu sy’n boblogaidd yng Ngwlad Pwyl dyw hi ddim yn syndod bod byw yn Llanybydder yn fwy deniadol. Does dim cân hyd yn hyn yn rhagori ar gân Bosnia yn fy marn i.
Gyda llaw mae Eurovision di-Derry Woggan yn ffres ac yn ddyrchafol.
Dwi’n eithaf mwynhau’r ffilmiau bach rhwng y caneuon.
Gwlad yr Ia. Llychlynnaidd iawn; hi wedi mynd braidd yn drwm ar y colur. Siwto Abba yn iawn yn y 1970au, ond mae’n 2000au ac efallai fod pethau wedi symud ymlaen ychydig. Ddim yn rhy hoff o’r gân. Swnio’n rhy debyg i bopeth arall tebyg. Roedd y wên ar eu hwynebau ar y diwedd yn awgrymu eu bod nhw wedi mwynhau, ac roedd hynny’n bwysig.
Nawr mae Twrci‘n canu. Clasur Eurovision.








![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael