Mae’r darllediad wedi dechrau ar y we yn fyw o Beogradska Arena gyda lle i gynulleidfa o ryw 23,000. Maen nhw’n agor gyda chân mewn Serbeg gan enillydd llynedd, Marija Šerifović, yna mae’n troi at Saesneg. Yn ei thro mae’n cyflwyno’r cyflwynwyr ffantastig yn siarad Saesneg Canol Ewrop gyda’r gorau. Ac oherwydd fy mod yn gwylio heb gyfrwng y BBC does dim sôn am Terry Wogan.
Mae’r gân gyntaf yn dod o Romania. Mae’r canwr gwrywaidd yn ddigon golygus, ond mae’r gân ei hun yn ddi-ddim. Nid hon fydd cân Ewrop. Mae’r gantores gyda rhyw awgrym o’r Celine Dion amdani. Mae’r gân yn gwaethygu wrth fynd yn ei blaen. Os yw hon yn ennill dwi’n fodlon bwyta fy ngeiriadur Iseldireg – yn araf!
Pwy fydd nesaf? Wel, wel, yr hen Deyrnas Gyfunol. Dwi ddim yn credu fy mod i wedi clywed y gân o’r blaen. O diar! Dwi’n credu fy mod i’n colli rhywbeth, ond nid hon fydd hi chwaith.
Cân mewn Albaneg gan Albania, da iawn. Trueni nad oedd y gân cystal â hynny. Oes chwaer arall gan Celine Dion, tybed?
Yr Almaen. Cân ddi-ddim arall. Does dim byd cofiadwy amdani. Nid caneuon felly sy’n ennill Eurovision. Nid yw’r perfformiad gan y merched yn llawer o help, mae mwy o fywyd yn y tân gwyllt. Byddai wedi bod yn well iddyn nhw fod wedi canu’r geiriau hyn mewn rhyw iaith arall er mwyn sicrhau nad oedd neb yn eu deall: “Crashing,breaking memories in my mind / (It won’t stop) / Never ever close to getting it right / (It won’t stop) / Best time of my life now it’s washed away / Still the stars they know how to spell your name.”
Mae cân Armenia yn dechrau yn addawol, ond mae’n troi i’r Saesneg yn llawer rhy gyflym; ond o leia mae ‘na gyffyrddiad o’r egostig yma. Dylai hon apelio at Dwrci a rhai o wledydd y dwyrain.
Nawr dyma’r gân dwi’n ei hoffi’n dod. Bosnia a Hertsegofenia. Hon ddylai ennill. Mae’r perfformiad yn fwy echreiddig na’r fideo hyn yn oed. Da iawn Laka! Dyma’r fath o berfformiad y gallen ni fod wedi’i ddisgwyl gan Dalí petai wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth erioed. O mae Bosneg yn iaith bert! Yn berffaith ar gyfer yr Eurovision. Priodferched yn gwau, lein ddillad; mae’n wych!




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael