Eurovision 2008 (1)
Wel, mae’r noson wedi dod pan fydd cyfandir cyfan yn dathlu eu diwylliant cyffredin a’u hamrywedd trwy gyfrwng yr iaith ryngwladol, sef cerddoriaeth. Heno yw noson rown derfynol Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008. Dwi wedi paratoi ar gyfer y noson wrth wylio’r ddau ragbrawf ar y we. Mae’n amlwg fod Serbia yn taflu adnoddau at y gystadleuaeth a dwi’n disgwyl i’r noson fod yn un fawr o ran cynhyrchiad. Mae’n siomedig fod cynifer wedi dewis canu mewn Saesneg, ac mae’n siom fwy fod nifer o’r rhai nad oeddent yn canu yn Saesneg heb fynd trwy’r rhagbrofion chwaith gan gynnwys Gwlad Belg gyda’r gân mewn iaith wneud. Ni wnaeth Montenegro na Chyprus lwyddo i gyrraedd y rownd derfynol chwaith.
Felly y gwledydd ar ôl yn y gystadleuaeth i’w dilyn am resymau ieithyddol yw: Albania, Bosnia a Hertsegofina, Romania, Portiwgal, y Ffindir, Serbia, a Thwrci. Mae rhai o’r lleill yn canu caneuon sy’n gymysgedd o Saesneg a’u hieithoedd cenedlaethol, fel Israel, ond mae hynny ychydig bach fel rhoi sticer GB a CYM ar y car yn fy marn i! Ond dwi’n falch fod rhai o’r caneuon hyn mewn arddull sydd yn bell iawn o’r Eingl-Americanaidd digymeriad sy’n nodweddu cynifer ohonynt.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan un o brif gyflwynwyr teledu Serbia Jovana Janković a’r cerddor poblogaidd Željko Joksimović. Ar ôl eu gwylio yn rhagbrofion dwi’n gwybod ein bod yn mynd i gael gwledd. Dwi mynd i sicrhau nad wyf fi’n gorfod gwrando ar Terry Wogan a’i sylwadau senoffobaidd ac Eingl-Americanaidd-ganolog trwy wylio’r gystadleuaeth yn fyw ar y wefan swyddogol.
Dwi’n rhoi fy arian bellach ar gân Bosnia a Hertsegofina, sef Elvir Laković Laka (neu Laka) yn canu Pokušaj — beth am geisio gwneud rhyw synnwyr o beth sy’n digwydd yn y fideo?


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael