Gwefan Gymunedol Trefeurig

Elin Jones AC, RO a Rhodri Llwyd MorganNeithiwr fe fues i mewn digwyddiad difyr iawn yn neuadd Ysgol Penrhyn-coch, sef lansiad gwefan gymunedol Trefeurig. Mae’r wefan wedi’i geni fel rhan o broject cymunedol Pwerdai Ceredigion. Mae cynllun Y Pwerdai yn brosiect arloesol ar y cyd rhwng Cered a Theatr Felin-fach, ac yn ymgais “i ymateb yn gadarnhaol a chreadigol i’r ffactorau hynny sy’n bygwth diwylliant cynhenid a ffordd o fyw draddodiadol y sir”.

Penderfyniad lleol yn ardal Penrhyn-coch/Trefeurig oedd ceisio cynnal rhai agweddau ar y gymuned trwy wefan. Ac yn bendant roedd y noson lansio a’r pwyllgor lleol sy’n gyfrifiol am y wefan yn adlewyrchu bywiogrwydd a chyfoeth y gymuned leol ym Mhenrhyn-coch a’r ardal. Roedd hi’n draddodiadol ond heb fod yn hen ffasiwn, ac yn esiampl i gymdogaethau eraill buaswn i’n tybio.

Côr Ysgol Penrhyn-coch

Arweiniwyd y noson gan gaderiydd Pwerdy Trefeurig, sef RO. Cafwyd dau i siarad – sef Elin Jones AC, y Gweinidog Materion Gwledig (a oedd yn lansio’r wefan yn swyddogol) a chynllunydd ac adeiladydd y wefan, Nigel Callaghan o gwmni Technoleg Taliesin i’w chyflwyno. Yn ogystal â’r siarad cafwyd dau gyfnod o ddiddanwch. Yn gyntaf grwp o bedwar o bobol ifainc sy’n aelodau o Gôr Ger y lli, ac yna grwpiau a chôr o Ysgol Penrhyn-coch. Unwaith eto roedden nhw’n esiampl o fod yn draddodiadol heb fod yn hen ffasiwn.

Ar ddiwedd y noson cafwyd cwpanaid o de a chacen.

Fe wnes i fwynhau mas draw. Ac yn bendant mae’n werth ymweld â’r wefan!

Rhagor o luniau o’r noson.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 1.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>