Eurovision ar y ffordd

Bues i ar raglen Radio Cymru Taro’r Post heddiw yn amddiffyn Cystadleuaeth Cân Eurovision yn erbyn eu beirniaid. Daeth yn hynod o ffasiynol i chwerthin ar ben y gystadleuaeth ond dwi’n wyliwr ffyddlon ac wedi bod ers yn grwt 5 mlwydd oedd bochgoch ym Mynachlog-ddu. Cystadleuaeth Eurovision oedd yn dod â glam a selebrwydd i mewn i fywyd oedd yn arbennig o brin o’r ‘rhinweddau’ hynny. Roeddwn yn dwlu ar yr amlieithrwydd a’r amrywiaeth arddulliau. O’r gore, dwi’n gwybod mewn cystadleuaeth taw ceisio plesio’r nifer fwyaf posib yw’r gamp, ond weithiau fyddai na grŵp neu unigolyn yn llwyddo i oresgyn hynny a chynnig rhywbeth oedd yn wirioneddol wreiddiol; rhaid cyfaddef nad hwy oedd yn ennill fel arfer, ond roedd yn brofiad gwych i fachgen ifanc fel fi.

Mae hefyd yn rhoi esgus imi chwarae fy hoff gân Euorvision erioed, sef cân fuddugol France Gall yn 1965, Poupée de cire, poupée de son.

Dwi’n dal i gynhyrfu yn meddwl am y gystadleuaeth oherwydd, er taw unffurfiaeth yw’r gêm gyffredinol gyda’r rhelyw yn dewis canu yn Saesneg, mae ‘na ambell i drysor yn ein disgwyl ni eleni eto. Mae Gwlad Belg yn osgoi unrhyw wrthdaro ieithyddol trwy ganu cân mewn iaith wneud, sef O Julissi Na Jalini gan Ishtar.

Wrth gwrs erbyn hyn mae’r Eurovision yn gorfod cynnal rhagbrofion a does dim sicrwydd y bydd Gwlad Belg yn cyrraedd y rownd derfynol. Mae hynny’n wir hefyd am y gweddill dwi’n mynd i’w henwi fel uchafbwyntiau ar gyfer y rhai sy’n ceisio’r ychydig o’r antur ieithyddol sydd ar ôl yn y gystadleuaeth.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

4 sylw ar Eurovision ar y ffordd

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>