Uwchraddio meddalwedd

Logo WordPressMae heddiw wedi bod yn ddiwrnod o ‘ofid’ wrth imi uwchraddio’r feddalwedd sy’n gyrru Blog Dogfael. Dwi’n gobeithio’n fawr nad yw wedi amharu ar dy fwynhad, ond ar un adeg cefais ofn fy mod wedi colli popeth. Ond nid felly yr oedd hi, fe ddes i o hyd i ddatrysiad ac mae’n edrych fel petai popeth bron â bod yn gweithio fel y dylai unwaith eto. Gyda llaw y feddalwedd dwi’n ei defnyddio i flogio yw WordPress ac fe fyddwn i’n ei hargymell i bawb sydd am redeg eu gwefan eu hunain yn hytrach na dibynnu ar wasanaeth fel Blogger. Mae WordPress yn feddalwedd agored sydd ar gael am ddim ond mae disgwyl i ti gyfrannu unrhyw newidiadau neu welliannau yn ôl am ddim i’r gymuned sy’n ei defnyddio. Mae tipyn o sbort i’w gael o gynnal blog dy hunan gan dy fod yn medru gwneud a newid pethau fel wyt ti am, ond mae wastad risg yr aiff rhywbeth o’i le.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.50 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>