Effing politisian

Are You Experienced?

Sylwadau gan y Cynghorydd Peter Read fel y’u dyfynnwyd yn Golwg sy’n mynd â’m sylw i. Ef yw’r cynghorydd newydd o blaid Llais Gwynedd a drechodd arweinydd Cyngor Gwynedd Richard Parry Hughes yn yr etholiadau diweddar. Un neges roedd e am i’r newyddiadurwraig ei throsglwyddo i’r byd a’r betws, sef “Dw i ddim yn effing politisian”. Pam roedd gwneud hynny mor bwysig iddo? Mewn ffordd o siarad dwi’n credu ei fod yn gweld ei ymgyrch a’i fuddugoliaeth fel un yn erbyn gwleidyddiaeth a’r gwleidydd ‘proffesiynol’.

Mae’r teimlad yn erbyn gwleidyddion o’r fath yn gryf; fe’i teimlais hyd yn oed wrth ganfasio ac ymgyrchu yn ward Canol Aberystwyth ar gyfer y cyngor tref. Mae bron â bod yn wireb bellach sy’n cael ei derbyn gan y rhelyw o etholwyr taw eu buddiannau eu hunain yw prif nod pob gwleidydd. Wedyn, os ydyn nhw’n meddwl am rywun arall, buddiannau cyd-wleidyddion, waeth pa blaid, yw eu consyrn. Daw teimladau o’r fath mewn tonnau ac ar adegau felly caiff pobol eu denu at bleidiau gwleidyddol nad ydynt yn rhan o’r sefydliad diogel a chlud. Yn raddol dros y blynyddoedd, wrth i Blaid Cymru lwyddo yn etholiadol, maen nhw wedi dod yn agos at fod yn rhan o’r sefydliad mewn sawl man, ac yn sefydliad yng Ngwynedd, mae’n debyg. (Er maen nhw’n dal i fod yn rhai i’w cadw allan o’r sefydliad mewn siroedd fel Ceredigion a Chaerfyrddin mae’n ymddangos). Mae plaid oedd wedi byw am y rhan fwyaf o’i bodolaeth ar ‘egwyddor’ bur nawr wedi gorfod tymheru hynny gyda dos go dda o ‘ymarferoldeb’. Efallai taw gor-ddrachtio ‘ymarferoldeb’ a ddigwyddodd yn achos polisi ysgolion yng Ngwynedd pan fyddai ychydig yn rhagor o ‘egwyddor’ wedi bod yn ddefnyddiol.

Ond nawr, er gwaethaf ei brotestiadau, mae’r Cynghorydd Peter Read bellach yn wleidydd. Bydd yntau a’r rhai sy’n coleddu yr un egwyddorion ag ef yn gorfod tymheru eu hegwyddorion i ryw raddau gydag ychydig o ymarferoldeb. Bydd yn cymryd ymdrech fawr ar ei ran i gadw’r llais heriol ‘gwrth-wleidyddol’ yn fyw wrth iddo eistedd mewn pwyllgor ac is-bwyllgor ac wrth i swyddog llywodraeth leol ar ôl swyddog ddweud wrtho beth all e wneud a beth na all e wneud! Cefais ychydig o ymdeimlad felly neithiwr wrth imi eistedd yn gwrando ar gyflwyniad ar bwerau a gweithgaredd cynghorau cymuned a thref.

Dwi ddim am swnio’n fradwrus a dwi ddim yn dweud fy mod yn cytuno gydag ef o gwbwl ar bolisïau eraill – dwi’n dal i fod yn aelod o Blaid Cymru a dyw hynny ddim yn debygol o newid a doeddwn i ddim yn rhy siŵr am ei addewid i roi unrhywbeth maen nhw eisiau i ysgolion – ond dwi’n credu fod lleisiau fel un y Cynghorydd Peter Read yn werthfawr mewn gwleidyddiaeth. Fe ddylai ein dihuno i sylweddoli fod lle i angerdd yn ein gwleidyddiaeth; a dylai hynny fod yn rhywbeth y gall aelodau Plaid Cymru uniaethu ag ef yn fwy na neb. Er eu bod yn faterion pwysig – delifro gwell gwasanaethau, sicrhau fod y pafin yn lân, tocio’r llwybrau troed, &c. – nid dyna sydd wedi denu y rhan fwyaf ohonom at wleidydda yn y lle cyntaf. Yr unig broblem gyda hyn i gyd wrth gwrs yw’r etholwyr: maen nhw fel petaent weithiau yn ffafrio egwyddorion , ond bryd arall yn edmygu ymarferoldeb. Y gwleidydd llwyddiannus yw’r un sy’n llwyddo i ddirnad p’run sydd ei angen pryd a ble. Dyna sy’n dweud wrtha i yn bendant na fydda i’n llwyddo yn y maes hwn yn fwy nag yr ydw i wedi’i wneud yn barod: dwi wastad yn cael fy hun yn yn mynd am yr ymarferol pan fo’r gweddill yn sefyll ar egwyddor, a vice versa.

Dyma gyffes nawr i ddangos hynny’n eglur. Yr unig dro imi ystyried peidio â phleidleisio i Blaid Cymru oedd yn etholiad cyffredinol 1983. Roeddwn i’n byw yn Sir Benfro lle’r oedd Nicholas Edwards (Nicholas Crucywel, bellach) yn dal y sedd i’r Torïaid ac roeddwn i bron â bod wedi fy argyhoeddi fy hun petawn i’n pleidleisio i’r ymgeisydd Llafur gyda’i maniffesto radical a oedd yn cynnwys diarfogi niwclear, y buasai Edwards yn colli. Yn y diwedd Ozi Osmond, Plaid Cymru, gafodd fy mhleidlais. A’r maniffesto egwyddorol oedd gan y blaid Lafur yn yr etholiad hwnnw oedd wedi fy nenu oedd y ddogfen a ddisgrifiwyd fel “The longest suicide note in history” gan y Llafurwr Gerald Kaufman.

Dwi wedi defnyddio llun o Barack Obama i ddarlunio’r cofnod hwn am fy mod yn credu taw ei allu i beidio ag ymddangos fel gwleidydd yw un ffactor yn ei lwyddiant yn arbennig felly yn erbyn Hilary Clinton. Mae ‘r ffaith taw Hilary sydd yn ei erbyn yn ffactor bwysig o’i blaid, oherwydd hi yw’r arch-wleidydd; mae hi’n yn siŵr o gyffroi emosiynau negyddol yn neb sydd yn gyndyn i ymddiried mewn gwleidyddiaeth neu wleidyddion. Efallai bod Peter Read a Barack Obama yn rhan o’r un symudiad. Ond wedyn weth, mae’n bosib fy mod yn anghywir.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>