Gwleidydd?

Dwi wedi llenwi’r ffurflenni perthnasol, dwi wedi gwneud y datganiad gorfodol ar lafar ac yng nghlyw y clerc, ac felly o’r diwedd rydw i’n aelod o Gyngor Tref Aberystwyth.

Heno y cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf o’r cyngor newydd gyda rhyw hanner ohonom ni yn gynghorwyr newydd yn ceisio’n gorau i ddeall beth oedd yn digwydd. Y peth rhyfeddaf oedd cael eich galw yn y Cynghorydd Hwn a’r Cynghorydd Llall trwy’r amser. Roedd ffurfioldeb y peth bron â gwneud imi chwerthin, ond wedyn fe wnes i feddwl y buasai fy mam a’m tad yn falch iawn ohono i yn gwasanaethu’r gymuned fel hyn. Roedd fy nhad yn gynghorydd plwyf/cymuned ym Mynachlog-ddu, ond fan ‘ny nid trwy etholiad yr oeddech chi’n ennill sedd ar y cyngor yn hytrach yr oeddech chi’n ei hetifeddu wrth eich tad fel arfer, er dwi’n credu i’m tad i ei hetifeddu oddi wrth ei dad-yng-nghyfraith.

Mae’r cyngor yn cwrdd yn Neuadd y Cambrian, Swyddfa’r Sir, Rhodfa’r Môr. Fel arfer mae’r cyngor a’i bwyllgorau yn cyfarfod ar nos Lun, ond roedd gwaith pwysig i’w wneud oherwydd nad yw’r cynghorydd a oedd wedi’i ddewis yn ddirprwy faer ar y cyngor bellach. Felly y prif waith oedd apwyntio maer (cadeirydd) a dirprwy faer (is-gadeirydd) newydd. Yn y diwedd nid dyna a ddigwyddodd o gwbl, yn hytrach fe wnaeth y cadeirydd/maer presennol barhau yn ei swydd tan y cyfarfod nesaf 23 Mehefin.

Yn ogystal â hynny roedd yn rhaid dewis aelodau ar gyfer gwahanol is-bwyllgorau’r cyngor a hefyd enwebu cynrychiolwyr ar gyfer cyrff allanol. Yr wyf fi yn aelod o dau is-bwyllgor, sef Pwrpasau cyffredinol a Chyllid. Dwi hefyd yn cynrychioli’r Cyngor ar ddau gorff allanol: Cyngor ar Bopeth (CAB) a phwyllgor gefeillio Aberystwyth-Esquel.

Oherwydd bod grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor yn agos i fod yn fwyafrif bob tro yr oedd pleidlais ar enwebiad – a doedden nhw ddim yn digwydd yn aml iawn – yr oeddem ni’n llwyddo i gael ein henwebiad wedi’i ethol. Rydw i’n dechrau teimlo fel gwleidydd go iawn bellach; ar raddfa fechan ac yn eithaf jentîl, ond eto i gyd gwleidydd. Heddiw Aberystwyth, ym mhen pedair blynedd, Aberystwyth.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>