Mwy na dim ond gwleidyddiaeth
Wrth gwrs mae bywyd wedi mynd yn ei flaen, er gwaethaf gwleidydda. Roedd yr wythnos a aeth heibio yn eithaf prysur yn grefyddol. Nos Lun fe fues i mewn gwasanaeth i sefydlu ficer newydd yn Eglwys y Drindod, sy’n rhan o blwyf Aberystwyth. Cefais i’r fraint o ddarllen y darlleniad Cymraeg yn y gwasanaeth; eglwys lle cynhelir gwasanaethau Saesneg yw Eglwys y Drindod. Yr offeiriad oedd yn cael ei sefydlu oedd y Parchg Ian Girling a oedd wedi bod yn gurad ym mhlwyf Hubberston, ger Aberdaugleddau, Sir Benfro.
Roedd dydd Iau, dydd yr etholiad, hefyd yn ŵyl eglwysig bwysig, sef Dydd Iau’r Dyrchafael. Y noson honno, pan roedd pawb arall yn gwneud eu gorau glas i sicrhau fod eu cefnogwyr yn mynd mas i bleidleisio cyn bo’r gorsafoedd yn cau am 10.00pm, roeddwn i’n sicrhau fod Eglwys y Santes Fair yn agored a phopeth yn ei le ar gyfer gwasanaeth y Cymun Bendigaid. Roedd yn wasanaeth dwyieithog ar gyfer y plwyf i gyd, a’r pregethwr oedd Ian Girling. Sais yw Ian ac ni ddaeth ar draws llawer iawn o Gymraeg yn Hubberston, ond dwi’n gobeithio’n fawr iawn y bydd yn dysgu digon o Gymraeg i arwain gwasanaeth y Cymun Bendigaid cynnar yn Eglwys y Santes Fair yn y dyfodol.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael