Mae trannoeth y bleidlais wastad yn ddiwrnod cymysg iawn. Ar un llaw mae dyn yn cael gwybod beth oedd canlyniadau’r etholiadau, does dim dyfalu na phoeni am bwy fydd yn ennill neu golli bellach, ac mae hynny’n reit dda. Wrth gwrs, os yw’r canlyniadau yn mynd yn eich erbyn mae’r diwrnod yn un digon diflas. Ond etholiadau yw etholiadau, bydd cyfle eto ymhen ychydig flynyddoedd i’w newid (ac nid yn y dull Simbabweaidd). Heblaw am drychineb, fel yn achos y Blaid Lafur heddiw, fel arfer mae ‘na bethau da i bob plaid sôn amdanynt mewn etholiadau lleol, gan eu bod yn etholiadau lleol. Mae ffactorau annisgwyl yn meddwl nad oes yr un tuedd yn cael ei adlewyrchu’n gyson ym mhob man. Er enghraifft, roedd y canlyniadau yn rhai da iawn i Blaid Cymru ar draws y wlad – o Wrecsam i Gaerdydd ac i Gaerfyrddin – ond roedd y ffactor leol yng Ngwynedd yn golygu bod y sylw wedi’i dynnu oddi wrthynt hwy at hynny.
Roedd hi’n newyddion da o ward Canol Aberystwyth, ond does dim disgwyl i neb wybod hynny gan nad oedd gan y wasg Brydeinig Llundain-ganolog ddim diddordeb yn y peth o gwbwl. Wrth iddyn nhw, a’r BBC hefyd, wario miloedd ar filoedd o bunnoedd ar ddod â chanlyniad y bleidlais ar gyfer Maer Llundain, fe anwybyddwyd newyddion o Gymru unwaith eto.
Y newyddion mawr o ward Canol Aberystwyth oedd bod Dogfael wedi ei ethol yn gynghorydd tref.
Dyma’r canlyniadau.
DOGFAEL Plaid Cymru 193Etholwyd
DAUNCEY Alec Lib Dem 215 Etholwyd
MACKENZIE-GRIEVE Samantha Jane Plaid Cymru 179
MAINWARING Mark Tori 80
SHAFTOE Trevor Graham Lib Dem 191 Etholwyd
WOODS Michael John Lib Dem 184
Ar ôl derbyn y canlyniadau bues i’n meddwl am dipyn am drefnu gorymdaith bws top-agored trwy strydoedd Canol Aberystwyth er mwyn dathlu’r fuddugoliaeth a diolch i’r etholwyr am ymddiried – yn rhannol – ynof fi. A chyn i neb boeni am fy achrediad gwyrdd, roeddwn i wedi bwriadu i’r bws fod yn un a oedd yn cael ei gyrru gan ynni’r gwynt. Ond wedi i’m traed gyffwrdd â’r ddaear fe ddaeth yn amlwg y dylwn ddisgwyl am ychydig cyn gwneud rhywbeth o’r fath. Byddai’n well imi ddechrau ar y gwaith o newid popeth gyntaf, ac efallai ar ôl gwneud hynny’n drylwyr, mynd i chwilio am fws top-agored wedi’i gyrru gan ynni’r gwynt i ddathlu y llwyddiant hwnnw!


(1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








http://www.flickr.com/photos/llwyngwair/2468811520/
Llongyfarchiadau.
Llongyfarchiadau! ;)
Watch out gwylanod Aberystwyth – mae’r terminator mewn grym ar Gyngor y Dref!
gwych – hyfryd gwybod bod rhywun call ar gyngor ein tref.
llongyfarchiadau mawr, ac edrychaf ymlaen at ddarllen hanes dy gynghoriaeth (os yw hwnnw’n air) ar y blog
Llongyfarchiadau mawr i ti y Cynghorydd Dogfael .
Da iawn !
Llongyfarchiadau i ti, Dogfael! Dw i’n siwr fyddi di’n gwneud llawer dros y bobl yno. Yr unig bryder ydy byddi di’n fwy prysur fyth.
Daw wastod haul ar fryn ac mor falch odw i y daeth haul yr ail o Fai i fachlud ar dy faraf Dogfael, ac fel y canws Cliff Richard yn yr Eurovision ’sgetyn – Congratulations and celebrations!!
Cer mas i feddwi’n dablen fel man nhw’n gwed yn dy fro di – ti’n ei haeddu fe xxx