Y fuddugoliaeth well

Wel mae’r cyfan drosodd heno, heblaw am y bleidlais yfory. Dwi wedi bod yn brysur dros y tri diwrnod diwethaf yn dosbarthu taflenni o gwmpas y ward lle dwi’n sefyll yn Aberystwyth, y ward ganol. Unwaith eto dwi wedi dod ar draws rhai pobol sydd yn dweud eu bod nhw am bleidleisio i Blaid Cymru heb unrhyw amheuaeth, mae eraill yn gofyn cwestiynau. Wrth gwrs y cwestiwn mawr yw beth ydych chi yn mynd i’w wneud i fi. Heblaw am gynnig llwybrau troed diogelach a meinciau cyfforddusach does dim rhyw lawer iawn o bwerau gan y Cyngor Tref. O’r herwydd dwi wedi datblygu ateb parod i bobol sy’n gofyn “What are you going to do for me?” sef “Not a lot! … Because the Town Council doesn’t have a lot o powers to do much for you.” O ganlyniad mae’n rhaid dechrau trafod syniadau – felly mewn un ffordd mae etholiad i Gyngor Tref yn fwy am syniadau na gweithredu yn wahanol i etholiadau eraill sydd bellach yn fater o gyflenwi rhestr siopa am bethau i’w rhoi i’r etholwyr. Efallai taw prif swyddogaeth y cyngor tref bellach yw bod yn llais i drigolion wrth gynnig barn ar faterion penodol. Dwi’n gobeithio’n fawr iawn – os ydw i’n ennill – y byddaf yn medru bod yn rhan o’r swyddogaeth hon.

Dogfael yn canfasio

Wrth ymgyrchu dwi wedi sylwi ar sawl peth am fy ngwrthwynebwyr. Mae’n siŵr eu bod nhw wedi sylwi arna i yn yr un modd. Mae fy mhrif dystiolaeth amdanynt yn dod o’u taflenni ac nid o gyfarfyddiadau wyneb yn wyneb. Roeddwn i’n a’m cyd-ymgeisydd dros Blaid Cymru ar gyfer ward Canol Aberystwyth wedi cynhyrchu un daflen yn unig ar gyfer y ddau ohonom ac fe gafodd y daflen honno eu hargraffu yn broffesiynol. Roedd y Dem Rhyddiaid wedi cynhyrchu un daflen (dwi’n credu) ar gyfer eu tri ymgeisydd gyda’i gilydd, ac wedyn wedi cynhyrchu taflenni unigol (a mwy nag un fersiwn ohonynt); ond sylwais fod rhai yn rhoi y daflen gyffredinol a dwy daflen unigol trwy’r drws yr un pryd. Ar y daflen gyffredinol dim ond llun dau o’r tri ymgeisydd oedd yno. Doedd yr un o’r taflenni wedi’u hargraffu gan argraffydd proffesiynol, ond wedi’u cynhyrchu yn eu swyddfa. Mae’n amlwg taw rhywbeth canolog oedd y taflenni hefyd gan eu bod yn dweud yn gwbl gywir “Ni all Llafur na’r Torïaid ennill yma!” – ond y prif rheswm am fod yn sicr eu bod yn gywir yw’r ffaith nad oes ymgeisydd Llafur yn sefyll yn y ward o gwbl! Roedd hi’n ymddangos i mi fod yr ymgeisydd Torïaidd wedi argraffu ei ‘daflen’ yntau ar y peiriant adref ac yn y glaw roedd yr inc yn dechrau rhedeg.

Dogfael yn canfasio

Beth fydd y canlyniad? Mae’n anodd dweud gan ei bod hi mor anodd dod ar draws pleidleiswyr i ofyn eu barn yn ward Canol Aberystwyth. Dwi’n ffyddiog y bydd un cynghorydd Plaid Cymru yn cael ei ethol dros y ward ganol, ond pwy fydd hwnnw neu honno, dwi ddim yn gwybod. Bydd un ymgeisydd Dem Rhydd yn cael ei ethol hefyd. Y cwestiwn mawr yw pwy fydd yn cael y trydedd sedd. Mae ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer y cyngor sir wedi gweithio’n galed iawn yn y ward ac mae’n bosib y gallai hynny droi’r dŵr i’n melin ni. Ac ar ôl dweud hynny mae’n bosib fy mod yn gwbl anghywir ac y gwelir y Ceidwadwr yn fuddugoliaethus! Hyd y gwn i does yr un pôl piniwn wedi’i gynnal yn y ward, ac wrth gwrs does yr un pôl yn cyfrif ond yr un yfory.

Fel mae’n digwydd y mae yfory yn un o wyliau’r Eglwys, sef Dydd Iau’r Dyrchafael. Ac efallai y dylwn gadw fy llygaid ar fuddugoliaeth well. Dyma emyn Dyrchafael gan John Williams (Glanmor, 1811-1891)

CYFODI wnaeth Tywysog hedd,
Gorchfygodd uffern fawr a’r bedd,
Esgynnodd i’w dragwyddol sedd :
Alelwia !

2 Agorwyd disglair byrth y nef,
Fe glywir gorfoleddus lef,
Fel sŵn y môr neu daran gref :
Alelwia !

3 Y fuddugoliaeth fawr a gaed,
A syrth Seraffiaid wrth ei draed,
A’r Saint a olchwyd yn ei Waed :
Alelwia !

4 Cymerwn ein telynau’n awr
O gangau’r helyg prudd i lawr,
Ymunwn yn yr anthem fawr :
Alelwia !

5 Esgynnodd Crist i entrych nef,
Pob glin a blyg i’w Enw ef,
Dyrchafwn orfoleddus lef:
Alelwia !

6 Gogoniant fo, ar uchel gân,
Trwy nef a daear heb wahân,
I’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân :
Alelwia !

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Y fuddugoliaeth well

  • Roedd y neges “ni all Llafur na’r Toriaid ennill yma” ar y daflen ddosbarthwyd gan yr ymgeisydd Dem Rhydd yn ward Tirymynach hefyd, ond does ‘run ymgeisydd gan y naill blaid na’r llall! Dydy’r ymgeiswyr eu hunain ddim yn gweld hyn yn beth od iawn i fod yn rhoi ar eu taflenni?

  • onid oes angen nodyn “defnyddir actorion yn y lluniau yma” ar waelod y blogiad?!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>