Diwrnod yr etholiad

Mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi cau ac mae pawb yn disgwyl am y cyfri a’r canlyniadau. Bues i y tu fas i orsaf bleidleisio ward Canol Aberystwyth am y rhan fwyaf o’r dydd, ond gyda’r nos bues i mewn gwasanaeth ar gyfer Dydd Iau’r Dyrchafael.

Dwi ddim yn gwybod faint sydd wedi bod yn pleidleisio yn gyffredinol, ond yn y ward ganol roedd pethau’n weddol araf trwy’r dydd tan rhyw 5.00pm. Wrth sefyll yno mae ‘na ryw frawdoliaeth / chwaeroliaeth ryfedd yn tyfu rhwng y rhai sy’n sefyll yn erbyn ei gilydd. Amlygwyd hynny yn paneidiau o de a rannwyd yn ystod y dydd a’r mân siarad parchus. Ond o bryd i’w gilydd byddai rhyw bwnc yn golygu ein bod ni i gyd yn cael ein cynhyrfu’n wleidyddol ac ar unwaith roedd y muriau yn cael eu codi. Cafwyd trafodaeth fywiog ar bwnc Pryd ar Glud. Ac yna fe dawelodd popeth. Pan ymddangosodd yr ymgeisydd Torïaidd roedd rhai’n methu gwrthsefyll y temtasiwn i ymosod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol arni hi a’i phlaid. Ond ar y cyfan prif nodwedd y dydd oedd diflastod wrth ddisgwyl am bleidleisiwr ymddangos.

Un etholwr ar ei ffordd i bleidleisio

Mae’r rhan fwyaf yn mynd i lawr i’r cyfri yn Aberaeron, ond nid oes disgwyl canlyniadau cyn rhyw 12.30am. Gan fy mod yn mynd i’r gwaith yfory, bydd yn rhaid imi fynd i’r gwely heno a disgwyl am y canlyniadau trwy negeseuon testun. Bydd pleidleisiau etholiadau’r Cyngor Tref yn cael cyfri yfory, ac mae’n debyg y bydda i mewn pwyllgor pan fydd fy nghanlyniad i yn dod i’r fei.

Dogfael gydag ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol

Byddai’n fraint cael gwasanaethu, ond mae’n ddiflas nodi bod llawer yn trin y rhai sy’n fodlon rhoi o’u hamser a’u hegni i wneud gwaith fel hyn gyda dirmyg. Heb wirfoddolwyr ni fyddai’n bosib i ddemocratiaeth weithredu, ond does neb yn diolch inni!

Rhagor o luniau o ddydd yr etholiad yn ward Canol Aberystwyth.

Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Diwrnod yr etholiad

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>