Wedi pleidleisio

Papur pleidleisio Cyngor Tref Aberystwyth, Ward Rheidol, 2008-05-01Dwi wedi fy nghofrestru ar gyfer derbyn pleidlais drwy’r post ar gyfer pob etholiad a heddiw pan ddes i ‘nôl o’r gwaith roedd papurau pleidleisio etholiadau Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth yn fy nisgwyl. Doedd e ddim yn waith anodd iawn penderfynu i bwy i bleidleisio, ond roedd dilyn y cyfarwyddiadau ynglŷn â rhoi pa bapur ym mha amlen yn llawer mwy cymhleth. Dwi’n gobeithio fy mod wedi’i wneud yn iawn neu fydd fy mhleidlais i ddim yn ddilys. Yn ogystal â llofnod roedd yn rhaid llenwi ffurflen i ddweud beth oedd fy nyddiad geni – dyma ffordd o sicrhau nad oes neb yn twyllo; mae’n siŵr o fod o ryw gymorth.

Roeddwn i’n arfer meddwl nad oedd twyll mewn etholiadau yn rhywbeth cyffredin, ond ers rhai blynyddoedd bellach mae hanesion am dwyllo mewn etholiadau yn digwydd yn amlach. Wrth gwrs, y twyll etholiadol enwocaf i gyd yn fy nghyfnod i oedd ymgais y gwleidydd Ceidwadaol, Lady Shirley Porter, i ystumio’r canlyniadau yn etholiadau Cyngor Dinas Westminster ddiwedd y 1980au a dechrau’r 1990au. O dan ei pholisi Building stable communities fe geisiodd sicrhau mwyafrif Torïaidd ar y cyngor drwy symud pobol a fyddai’n debygol o bleidleisio i Lafur o gartrefi mewn wardiau ymylol a’u cadw’n wag, neu eu llenwi â’r rhaid y disgwylid iddynt bleidleisio i’r Torïaid a thrwy ganolbwyntio gwasanaethau’r cyngor ar y wardiau hynny, gan anghofio am wardiau diogel Torïaidd a Llafur. Fe’i disgrifiwyd hi gan un sylwebydd, Andrew Hosken, fel “the most corrupt British political figure in living memory, with the possible exception of Robert Maxwell”.

Mae’n bosib nad ydyn ni’n byw mewn gwlad sydd â dwylo gwleidyddol mor lân â hynny wedi’r cwbl.

Shirley Porter

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Wedi pleidleisio

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>