Llythyr gan y Post Brenhinol
Pan ddes i nôl adref o’r gwaith heddiw roedd ‘na lythyr oddi wrth y Post Brenhinol yn fy nisgwyl. Dwi ddim yn derbyn llythyron oddi wrth y Post Brenhinol felly roeddwn i’n eiddgar i wybod beth oedd ganddynt ddweud. Nid llythyr yn dymuno’n dda imi yn fy ymgyrch etholiadol oedd hwn, ond yn hytrach newyddion drwg iawn i drigolion Aberystwyth yn fy nhyb i. A beth oedd y newyddion? Mae’n fwriad gan y Post Brenhinol i gau swyddfa ddosbarthu Y Ffynnon Haearn a’i symud mas i Stad Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr. Mewn geiriau eraill pan fydd llythyr neu barsel wedi’i anfon ata i a dyw hi ddim yn bosib ei ddosbarthu am ryw reswm neu’i gilydd – rhy fawr, angen llofnod, dim digon o stampiau, &c., &c. – bydd rhaid i rywun fynd mas i Lanbadarn Fawr, wel i’r stad ddiwydiannol Glanyrafon. Fel y mae ar hyn o bryd y mae’n bosib cerdded i’r swyddfa ddosbarthu yn ddidrafferth, ond nawr bydd hynny’n anodd iawn gwneud hynny a bydd hi ddim llawer haws dal bws yno. Dwi’n cymryd fod hynny’n wir am y rhelyw. Felly beth maen nhw’n ceisio ei wneud? Rhan o’r cynllun i gau swyddfeydd post mae’n siŵr. Bydd yn rhaid sôn am hyn ar y stryd pan yn ymgyrchu!




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Wel dyna syniad gwallgof.