Holiadur Menter Trefi Trawsnewid Aberystwyth

Fel ymgeisydd yn yr etholiadau lleol fe dderbyniais holiadur oddi wrth Fenter Trefi Trawsnewid Aberystwyth. Roeddwn i’n meddwl y buasai’n o ddiddordeb i ddarllenwyr y blog beth oedd fy ymateb i’w cwestiynau.

Annwyl Ymgeisydd

Rydym ni, Menter Trefi Trawsnewid Aberystwyth yn ysgrifennu atoch chi fel ymgeisydd yn yr etholiadau llywodraeth leol i ganfod lefel eich dealltwriaeth ac ymroddiad i faterion amgylcheddol. Rydym ni’n ysgrifennu at bob ymgeisydd yn Aberystwyth a byddwn yn anfon crynodeb o’n casgliadau i’r cyfryngau lleol.

Diolch yn fawr am eich amser
A Fink
ar ran TTAber

Cwestiwn 1: A ydych chi wedi clywed sôn am Fentrau Trosiant yn y DU ac a ydych chi’n ymwybodol o Fenter Trefi Trawsnewid Aberystwyth?
Ydw, rydw i wedi clywed am Fenter Trawsnewid. Dwi ddim wedi clywed am Fenter Tref Trawsnewid Aberystwyth, ond dwi’n ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd mewn mannau eraill fel yn Llandeilo. Maen nhw wedi cael llawer o sylw yn ddiweddar!

Cwestiwn 2: A ydych wedi clywed am y cysyniad o gyrraedd anterth cynhyrchu olew? Beth ydyw yn ei feddwl i chi?
Ydw, rydw i wedi clywed am y cysyniad o gynhyrchu olew yn cyrraedd ei anterth. Dwi’n deall hyn i olygu bod adeg ar ddod pan fydd cynhyrchu olew yn cyrraedd uchafbwynt ac o hynny ymlaen bydd lleihau mewn cynhyrchu. Bydd gan y newid hyn oblygiadau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol anferthol ac fe ddylid ceisio paratoi ar ei gyfer.

Cwestiwn 3: Yn y flwyddyn 2000, yn ystod anghydfod gyrwyr lorïau’r DU, daeth y wlad yn agos at ddognau bwyd. Dadleuem nad yw rhai gwersi wedi’u dysgu eto o’r anghydfod hwnnw a bod gwendidau’n bodoli o hyd oherwydd ein bod wedi aberthu hunangynhaliaeth leol er budd cadwyni cyflenwi byd-eang. Sut ydych chi’n meddwl y gall gwleidyddiaeth leol taclo erydu hunangynhaliaeth economaidd leol?
Dylai gwleidyddiaeth leol symud y ffocws yn ôl i’r lleol o ran darparu nwyddau a gwasanaethau ac yn ddiwylliannol. Mae gan wleidyddiaeth leol ddyletswydd i gyfnerthu a rhoi hyder i gymunedau lleol i gymryd gafael yn eu dyfodol a chynllunio dyfodol fydd yn sicrhau dyfodol y cymunedau. Fel gwleidydd sy’n ymladd am sedd ar gyngor tref rwy’n ymwybodol nad oes gan y lefel honno o lywodraeth lawer o bŵer uniongyrchol ond mae’n medru chwarae rhan allweddol wrth osod yr agenda a’r hinsawdd feddyliol ar gyfer symud agweddau tuag at sefyllfa o’r fath.

Cwestiwn 4: Mae arbenigwyr ar newid yn yr hinsawdd yn dadlau bod rhaid i ni leihau gollyngiadau o nwyon tŷ gwydr (yn enwedig CO2). Yn eich barn, sut ydym ni yn mynd i leihau’n hôl troed carbon a phwy sy’n gorfod gweithredu?
Mae gweithredu i leihau ein hôl-troed carbon yn rhywbeth sy’n rhaid digwydd ar lefel bersonol, cenedlaethol a byd-eang. Yn ein hachos ni yn Aberystwyth rydyn ni hefyd yn cael ein rheoli yn rhannol gan lywodraethau ar lefel wladwriaethol Brydeinig ac Ewropeaidd. Bydd angen gweithredu ar bob lefel i leihau’r allyriannau carbon.

Cwestiwn 5: Sut byddwch yn cefnogi hunangynhaliaeth leol?
Am lawer yn rhy hir rydym ni yng Nghymru wedi gadael i’n hunain gael ein rheoli o’r tu fas. Yr ydym wedi derbyn agweddau trahaus a hiliol tuag atom ni fel pobol a thuag at ein hiaith. Credaf i taw un o’r camau cyntaf tuag at adfer ein ffydd yn ein gallu ni ein hunain yw adfer ein hunan barch fel pobol. Gobeithiaf y byddaf fi’n medru cyfrannu at hynny. O adfer ein hunan barch byddwn yn fwy abl ac yn barotach i gymryd gafael yn ein dyfodol ni ein hunain. Os ydym yn fodlon gafael yn ein hiaith a’n diwylliant gyda balchder a gwybod nad oes angen inni gredu fod diwylliant byd-eang Eingl-Americanaidd yn rhagori arno yna byddwn ni wedi cymryd cam pwysig iawn tuag at fod yn hunangynhaliol.

Cwestiwn 6: A oes unrhyw bolisïau eraill yr hoffech chi eu crybwyll?
Hoffwn dynnu sylw at fy mwriad i sicrhau fod pobol yn cael gwybod beth sy’n digwydd a’u bod hefyd yn teimlo eu bod yn cael clywed eu llais mewn unrhyw benderfyniad. Byddaf yn cefnogi mesurau i leihau traffig ceir yn y dref gan roi cerddwyr yn gyntaf. Byddaf yn cefnogi penderfyniadau cynllunio a fydd yn rhoi bri ar draddodiadau lleol ac yn rhoi gwerth ar amddiffyn yr amgylchedd. Byddaf hefyd yn sicrhau cynnal cymeriad Cymraeg Aberystwyth a’i lle fel prif-ddinas diwylliannol ein cenedl.

Cwestiwn 7: Mae’n cwestiwn olaf yn gofyn i chi edrych i mewn i’r dyfodol. Mae hi’n 2030, mae Aberystwyth wedi addasu’n llwyddiannus i’r cyfnod ar ôl olew ac mae’n dref ffyniannus a chynhaliol. Ewch â ni ar daith, beth welwn ni?
Nid wyf yn broffwyd, nac yn blentyn i broffwyd!

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 1.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>