Ar y stwmp siwnre ‘to

Bues i mas ar y stwmp unwaith eto heno. Dyma’r drydedd noson imi fynd o ddrws i ddrws yn ward ganol Aberystwyth fel rhan o’m hymgyrch i gael fy ethol i Gyngor Tref Aberystwyth. Heno fe fues i galw mewn tai ym Morfa Mawr, Stryd y Baddon, Stryd y Gorfforaeth, Rhes Crynfryn, Tai Crynfryn a Rhodfa’r Môr.


Gweld map mwy o faint

Dim ond mewn rhyw draean o’r tai yr oedd ‘na ateb. O’r bobol a oedd yn ateb roedd tynnu am eu hanner yn fyfyrwyr nad oedd ganddynt lawer o ddiddordeb yng ngwleidyddiaeth Cyngor Tref Aberystwyth neu heb gofrestru i bleidleisio. Roedd gweddill yn ddigon cwrtais yn eu hymateb, yn derbyn fy nhaflen, ac yn ddigon bodolon ystyried fy nghais am iddynt bleidleisio i mi. Doedd dim rhyw lawer ohonynt am gychwyn trafod, ond fe gefais un dyn oedd yn credu taw un o’r pethau pwysig y dylai’r ‘cyngor’ wneud oedd mynd i’r afael â’r gwylanod yn y dref. Ei ateb oedd eu difa i gyd. Yr oeddwn yn fodlon cytuno eu bod yn achosi trafferth, ond wnes i ddim cytuno gyda’i ateb o’u lladd nhw i gyd.

Wedi mynd o’r tŷ dechreuais feddwl efallai y dylwn i fod wedi cynnig lladd dau aderyn ag un garreg(!) wrth awgrymu (gyda fy nhafod yn ddwfn yn fy moch) y gellid cyflogi’r boy-racers sy’n gyrru’n wyllt o gwmpas y dref i saethu gwylanod er mwyn eu cadw o’u ceir. Ond gwleidydd oportiwnaidd fyddai’n gwneud awgrym o’r fath, a dwi ddim am gael yr enw am fod yn wleidydd o’r fath. Bydd yn rhaid edrych o ddifrif am ateb i’r ddwy broblem a rheiny’n atebion go iawn.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Ar y stwmp siwnre ‘to

  • Dafydd Pritchard

    Ydi Dogfael am rannu gyda’i ddarllenwyr sut mae pethau’n edrych ddiwrnod cyn yr etholiad?

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>