Mae ‘na un profiad o’r gwyliau ym Mrwsel nad ydw i wedi’i adrodd hyd yn hyn, mae’n bosib fy mod yn dal i fyw mewn gwadiad ynglŷn â’r peth. Ond ar y nos Iau 2008-04-10, wrth gerdded yn ôl i’r gwesty, bu ymgais i’m mygio. Efallai fy mod yn anghywir i ddweud ‘ymgais i’m mygio’, fe gefais fy mygio, ond ni lwyddodd y mygiwr.
Roeddwn i, DML ac RO wedi bod yn nhafarn De Koning van Spanje yn y Grote markt ac yn cerdded yn ôl i’r gwesty ar hyd Zuidstraat. Roeddwn i’n cario fy mag Jost ar fy ysgwydd, ac wrth inni ddod at groesiad Philippe de Champagnestraat, dyma ddyn dod o’r tu ôl i mi ac yn ceisio mynd â fy mag. Doedd hi ddim yn noson arbennig o dywyll ac roedd ‘na un neu ddau arall o gwmpas, ond nid yn y fan hynny ar y foment honno. Dwi’n gwybod taw’r cyngor yw gadael i’r lleidr fynd â’r hyn mae’n ceisio ei ddwyn er mwyn amddiffyn eich hun rhag ymosodiad, ond roedd rhywbeth ynof i wnaeth wneud imi ddal yn dynn yn y bag a dyna lle’r oedden ni’n tynnu ar y bag. Mae’n rhyfedd na wnaeth dorri, ond mae’n deyrnged i’w wneuthuriad Almaeneg ei fod wedi dal yn un darn a’m bod i’n dal i’w ddefnyddio heddiw.
Yn rhyfeddol wrth imi ymladd gyda’r mygiwr i gadw fy mag daeth y gair Ffrangeg am leidr i’r cof a dechreuais weiddi “Voleur! Aidez-moi!” dros y lle i gyd – doeddwn i erioed yn credu y byddai’r cyfle’n dod i’w defnyddio, er eu dysgu yn y wers Ffrangeg yn Ysgol Preseli slawer dydd. (Am ryw reswm neu’i gilydd ddaeth yr Iseldireg “Dief! Hulp mij!” ddim o gwbwl; mae’n rhaid fy mod i’n meddwl taw siaradwr Ffrangeg oedd y mygiwr). Dwi’n credu bod fy nghlywed i’n gweiddi’n uchel a hynny bron ar unwaith wedi codi peth ofn ar y mygiwr oherwydd dyma fe’n gadael y bag i fynd ac yn rhedeg i lawr y stryd a throi i lawr am Rouppestraat sy’n arwain i Rouppeplein.
Roedd RO wedi mynd o’n blaenau ac wedi cyrraedd y gwesty yn Rouppeplein pan glywodd y gweiddi, ond wnaeth e ddim sylweddoli beth oedd yn digwydd yn iawn – roedd e’n hanner meddwl fy mod i a DML yn ceisio chwarae rhyw dric arno, neu o leiaf gwneud atom. I ddweud y gwir fe wnaeth y peth fynd a dod mor gyflym fel fy mod i heb sylweddoli’n iawn beth oedd yn digwydd ar y pryd chwaith. Dim ond wedyn, ar ôl sylweddoli beth oedd wedi digwydd y dechreuais i deimlo ofn ac ychydig ofid. A dyw hynny heb ddiflannu’n iawn hyd yn oed wrth imi ysgrifennu’r geiriau hyn dros wythnos yn ddiweddarach. A dwi bellach yn sicrhau fy mod yn rhoi stropen y bag dros fy mhen fel y byddai’n rhai i fygiwr dynnu fy mhen bant er mwyn ei ddwyn – neu o leiaf dorri’r stropen mewn rhyw fodd neu’i gilydd.
Yn eironig iawn digwyddodd yr ymosodiad bron â bod y tu fas i Huis van het Nederlands – canolfan hybu dysgu Iseldireg ym Mrwsel!



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Pop cydymdeimlad gyda chlywed am yr ymosodiad. Tydi profiade tebyg byth yn diflanu, ond mae eu heffaith yn lleihau gydag amser.