Dwi’n gwybod fy mod yn ôl o Frwsel ers dros wythnos bellach, ond dwi ddim wedi cael cyfle i ddweud rhyw lawer am y trip. Does dim rhyw lawer i’w ddweud fel y cyfryw gan fy mod wedi cael amser reit dawel. Gwneud dim oedd y bwriad, ac fe lwyddais i raddau helaeth. Nid person gwneud pethau yw DML, ond eistedd a mwynhau coffi neu gwrw bach fan hyn a fan ‘co. Mae mwy o’r gwneud yn perthyn i mi na hynny, ond dim cymaint ag sydd yn perthyn i RO. Ond ryw fodd neu’i gilydd fe lwyddon ni i fynd am wythnos gyfan heb ffrae nac anghydwelediad rhy ddramatig. I ddweud y gwir fe fuon ni’n eithaf cytûn.
Un o’r rhesymau dros hynny dwi’n credu yw ein bod wedi cael gwesty cyfleus bron â bod yng nghanol y ddinas. Doedd e ddim yn deluxe, ond roedd yn ddigon da a chyfforddus i’r tri ohonom am y pum noson. Yr hyn a oedd yn dda amdano oedd ei bod hi’n bosib cerdded i’r Grote markt mewn deng munud a hynny heb ruthro. Roedd gorsaf premetro Anneessens gerllaw hefyd.
Dyma grynodeb o’r gwyliau.
Dydd Llun 2008-04-07
Teithio i Frwsel. Trafferth yn St Pancras Rhyngwladol oherwydd digwyddiad yn ymwneud â diogelwch. Yn y pendraw yn gadael am Frwsel rhyw awr a hanner yn hwyr. Cyrraedd y gwesty yn ddigon didrafferth a mynd am swper mewn bwyty Eidalaidd yn cael ei redeg gan bobl o Forocco.
Dydd Mawrth 2008-04-08
Mynd am y diwrnod cyfan i Leuven i weld ffrindiau. Crwydro o gwmpas y ddinas ac yna mynd i gael swper gyda Liesbeth, Ivan, Kevin a Reinout. Cyrraedd yn ôl ym Mrwsel yn hwyr, ond yn llwyddo i gael metro o’r orsaf i Anneessens.
Dydd Mercher 2008-04-09
Dechrau’r diwrnod gydag ymweliad i’r sefydliadau Ewropeaidd: yn benodol â Thŷ Cymru, lle mae swyddfa cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru yn byw. Mae DML ac RO yn adnabod pennaeth y swyddfa yn dda ac felly roedd yn gyfle i ail-gydio mewn hen hanesion a hanesion newydd. Wedyn draw i siop lyfrau Fnac cyn cinio. Yna yn y prynhawn draw i weld Senedd-dy Flandrys a Senedd-dy Gwlad Belg cyn ymwahanu. Es i am daith o gwmpas y ddinas tra’r aeth DML ac RO i’r Koninklijke Musea voor Schone Kunsten i weld yr hen feistriaid, gan gynnwys gwaith Breughel a Rubens.
Dydd Iau 2008-04-10
Mynd am Amgueddfa Affrica KMMA yn Tervuren yn y bore. Taith hyfryd ar tram 44 o orsaf Montgomery (codi hiraeth yn DML) ar hyd Tervurenlaan a thrwy goedwig Zoniënwoud neu Zoniënbos. Wedyn yn ôl yn y prynhawn i weld adeiladau’r senedd Ewropeaidd o gwmpas sgwâr Luxemburgplein. Wedi swper mynd i’r Grote markt i gyfarfod â chyfaill DML ac RO oedd yn gweithio yn Nhŷ Cymru ac adref yn hwyr i’r gwesty.
Dydd Gwener 2008-04-11
Taith hir ar y tram 23 yn y bore i fyny o orsaf Brwsel Zuid hyd at Heizel a chyfle i weld y stadiwm, yr Atomium a’r neuaddau arddangos (o bell) cyn mynd yn ôl i’r canol a hamddena trwy grwydro siopau llyfrau Zuidstraat. Yna mas i’r canol gyda’r nos i gael pryd o fwyd, cwrw bach mewn tafarn ar y ffordd yn ôl, ac yna pacio ar gyfer y bore.
Dydd Sadwrn 2008-04-12
Taith digon diddigwydd yn ôl i Lundain, ac yna y storm o law a chesair mwyaf ofnadwy! Fe gymrodd amser i gyrraedd yn ôl i Aberystwyth, ond fe aeth y daith yn iawn – diolch i drenau Virgin ac Arriva.
A dyna’n gryno oedd ein gwyliau. Bydda i’n mynd eto!








![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael