Cwis yn Llanbadarn Fawr

Dogfael: y cwisfeistrNos Wener bues i mewn cwis i lansio apêl leol Llanbadarn Fawr i godi arian tuag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sydd yn cael ei chynnal rhywle yng Ngheredigion yn 2010. Roedd y cwis yn cael ei gynnal yn ystafell gefn y Llew Du yn Llanbadarn ac roedd y lle’n orlawn gydag 11 o dimau yn amrywio mewn maint o ryw 4 hyd at 8 (os nad mwy). Golygai hynny fod na awyrgylch da yno a thipyn o sbort. Fi oedd yn arwain y cwis ac fe holais gwestiynau yn dilyn fy mhatrwm arferol. Gan ei bod hi’n Ŵyl S. Siôr yr wythnos hon fe wnes i rownd fer ar S. Siôr. Dwi ddim yn credu bod llawer o’r rhai oedd yn bresennol yn disgwyl cael rownd ar y pwnc, ond roedd yn chwa o awyr iach, ac yn gyfle inni affirmiadu ein cyd-ddiwylliant ar yr ynys hon. Wyt ti’n gwybod yr atebion i’r cwestiynau?

CWIS SIOR

  1. Beth yw dyddiad Gŵyl S. Siôr, nawddsant Lloegr?
  2. Ym mha wlad cafod S. Siôr ei eni: Twrci, Iwerddon, neu Georgia?
  3. Yn ôl traddodiad pryd bu farw S. Siôr: 525, 303, 723?
  4. Un o’r ffeithiau rhyfeddol am William Shakespeare yw iddo gael ei eni ac iddo t farw ar ddydd gŵyl S. Siôr; ond bu farw bardd Saesneg arall ar ddydd gŵyl S Siôr. Pwy: John Betjeman, Rupert Brooke neu T S Eliot?
  5. Ym mha chwarae y mae cystadlu am Gwpan S. Siôr, St. George’s Cup?
  6. Mae S. Sior yn nawddsant sawl gwlad. Pa un o’r gwleydd hyn nad yw’n nawddsant iddi: Portiwgal, Palestina, Gwlad Pwyl?
  7. S. Siôr hefyd yw nawddsant mudiad y sgowtiaid, The Scouts. Pwy sefydlodd y mudiad hwnnw?
  8. Capel S. Siôr, St. George’s Chapel, yng Nghastell Windsor oedd cartref y Groes Naid (the Cross of Gneth) wedi iddi gael ei dwyn oddi ar gorff Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1282. Fe’i rhoddwyd i’r Capel gan y brenin a sefydlodd y capel yn 1348. Pwy oedd y brenin hwnnw?
  9. Croes Siôr, neu George Cross, yw’r anrhydedd uchaf am ddewrder gan sifiliaid y mae gwladwriaeth Prydain yn ei ddyfarnu. Fel arfer y mae’n cael ei ddyfarnu i unigolion ond yn 1942 fe’i dyfarnwyd i ynys. Pa ynys?
  10. Yn y gyfres deledu George and the Dragon (1966-1968) pwy oedd yn chwarae’r prif rannau – sef George a’r Ddraig?

Atebion i ddilyn mewn diwrnod neu ddau.

Y gynulleidfa

Rhagor o luniau o’r noson.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>