Dwi newydd wrando ar Gwilym Owen yn adolygu’r wasg wythnosol ar raglen Post cyntaf BBC Radio Cymru ac mae un cwestiwn wedi codi yn fy meddwl: oes ‘na gymal yng nghytundeb Gwilym Owen gyda’r BBC sy’n golygu ei fod yn gorfod cynnwys y gair sanhedrin mewn pob cyfraniad? Mae’n ymddangos felly i mi gan ei fod wedi defnyddio’r gair unwaith eto y bore ‘ma. Efallai ei fod yn gwneud hynny fel rhan o gêm wyrdröedig gyda’i gyfeillion yn y byd darlledu. Ond diolch amdano, oherwydd mae’n debyg taw dim ond Gwilym Owen a’i ffans sy’n gwybod beth yw ystyr y gair erbyn hyn ac yntau yw’r unig un sy’n ei ddefnyddio’n gyson.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Un peth arall sy’n cael ei ddweud ar Y Post Cyntaf yn aml yw “…fel hyn”; er enghraifft: “Diolch yn fawr i chi am ddweud eich dweud ar fore Llun, fel hyn” neu “..ar fore Mawrth/Mercher/Iau/Gwener fel hyn”
Hefyd dilynir ffug embaras ymhlith y cyflwynwyr gyda’r idiom Post Cyntafaidd yma: “Well i ni symyd ‘mla’n ‘wi’n credu”.
Dywedwyd e bore ‘ma fel ymateb i’r honiad hynod embarasing fod dynion yn waeth wrth yrru ceir na gwragedd, wedi’r cyfan. Well i ni symud ‘ml’an ‘wi’n credu.
Mae ‘na ohebydd arall gyda Radio Cymru sy’n trafod ceir newydd o dro i dro a’r gair yn ei gytundeb ef gyda’r BBC i’w gynnwys mewn cyfraniadau, mi dybiaf, yw CABOLEDIG.