Allan ar y stwmp
Dwi wedi dychwelyd o Frwsel ers sawl diwrnod, ond heb gael amser i daro bys ar fysell ac ysgrifennu pwt ar gyfer y blog. Y prif reswm am hynny yw fy mod wedi dod yn ôl i ganol y frwydr etholiadol yn ward ganol Cyngor Tref Aberystwyth.
Heno fe fues i mas yn canfasio ac yn dosbarthu fy nhaflen am y tro cyntaf. Bues i’n cerdded y strydoedd – Y Porth Bach, Stryd y Popty, Ffordd y Môr, Stryd Portland a Ffordd Portland. Ni welais i’r un ymgeisydd arall, ond fe fues i’n rhan o ‘ddigwyddiad’ yn Ffordd Portland. Wrth imi gerdded yno dyma gar gwyn yn dringo i fyny’r pafin a mynd ar hyd-ddo am ryw 10-15 medr, ac yna canu’r corn yn uchel er mwyn ceisio hala ofn arna i. Dwi’n ofni fy mod i wedi mabwysiadu persona’r ymgeisydd sydd â chonsyrn am y gymuned yn llwyr, a dyma gerdded at y car a dweud wrth y ferch oedd yn gyrru, “Dyw hi ddim yn iawn ichi barcio ar y pafin gyda dwy linell felen ar ochr y ffordd. Dylech chi symud y car yma.”
Dyma’r ferch arall oedd yn sedd y teithiwr yn troi ata i a dweud, “What right have you got to assume that she speaks Welsh?”
Atebais, “What should I assume, that she speaks French?”
“No, that she speaks English like any normal person!”
“Well, you shouldn’t park your car on the pavement.”
“So what are you going to do about it, then?”
“I’ll report you.”
“Go on then!”
A dyma fi’n mynd i gefn y car a chymryd y rhif. A cherdded i ffwrdd. Wnaeth y car gwyn ddim aros yn hir cyn gyrru bant. Dwi’n credu y bydd hi’n rhaid imi wneud datganiad i’r wasg ynglŷn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
Dwi ddim yn rhy siŵr a ydw i’n un ar gyfer gwleidydda ar y lefel hyn wedi’r cwbl.


(4 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael