Brwsel unwaith eto

Ochr orllewniol y Grote Markt, BrwselDim ond nodyn bach byr yw hwn i ddweud fy mod i ar fy ffordd i Frwsel y bore ‘ma. Dwi’n gadael Aberystwyth ar y trên 9:27am gan newid yng ngorsaf Birmingham Stryd Newydd a chyrraedd Llundain Euston erbyn 2:00pm. Wedyn mae’n rhaid inni ddisgwyl tan 4:35pm i’r trên Eurostar am Frwsel adael St Pancras Rhyngwladol. Erbyn hyn mae’n cymryd ychydig o dan dwy awr i deithio i Frwsel, felly fe fyddwn ni’n cyrraedd yno erbyn 7:30pm (amser Brwsel). Rydyn ni’n aros mewn gwesty heb fod yn bell o ganol y ddinas, yn agos i’r lle wnes i aros rhyw ddwy flynedd a hanner yn ôl – hanner ffordd rhwng gorsaf Brwsel Zuid a’r canol. Nid yw’n westy pum seren, ond dwi’n gobeithio y bydd yn ddigon cyfforddus i’r tri ohonom ni – finnau, RO a DML. Dwi ddim yn mynd â’m cyfrifiadur gyda mi y tro hwn, er mwyn osgoi gwneud unrhyw waith. Y cyfan dwi am ei wneud yw gorffwys ac ymgyfnerthu ar gyfer y frwydr etholiadol sydd o ‘m blaen i (ac o flaen RO). Does gen i ddim unrhyw beth dwi am ei wneud yn benodol, ond rydyn ni wedi cael gwahoddiad at ein ffrindiau yn Leuven am un noson, felly bydd yn rhaid mynd i fan ‘ny. Mae’n debyg y bydda i’n mynd i Wemmel a dyna ni. A dwi’n bwriadu darllen dau esboniad ar lyfr y Datguddiad er mwyn paratoi ar gyfres o bregethau dwi am eu traddodi dros y misoedd nesaf.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (6 yn pleidleisio, cyfartaledd: 2.33 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>