Paratoi am yr etholiad

Taflen etholiad Cyngor TrefGan fy mod i’n mynd i ffwrdd am ychydig ddyddiau roedd yn rhaid imi gael pethau’n barod ar gyfer yr etholiad cyn mynd. Felly dros y ddau neu dri diwrnod diwethaf dwi wedi bod yn paratoi taflenni ar gyfer ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth. Mae pump ward yn Aberystwyth ac mae ‘na ymgeiswyr gan Blaid Cymru ym mhob un. Dyma restr o’r wardiau gyda nifer y seddau a nifer ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer pob un.

  • Bronglais (4) – 4 ymgeisydd
  • Gogledd (3) – 2 ymgeisydd
  • Canol (3) – 2 ymgeisydd
  • Rheidol (4) – 3 ymgeisydd
  • Penparcau (5) – 2 ymgeisydd

Un daflen sydd ar gyfer pob ward ac mae’r dyluniad yn debyg, felly mae’n rhaid eu gwneud yn ddigon hyblyg i gynnwys nifer wahanol o ymgeisyddion yn ôl y galw. Dwi wedi gorffen y taflenni ac felly’r cyfan sy’n rhaid ei wneud yn awr yw gwneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd yr argraffwyr mewn da bryd.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (4 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>