Efallai yr hoffet ti wybod beth yw’r newyddion gwleidyddol diweddaraf o dref Aberystwyth. Mae’r enwebiadau wedi cau ar gyfer etholiadau’r Cyngor Tref a dwi’n gwybod nawr pwy fydd fy ngwrthwynebwyr yn yr etholiad ar 1 Mai 2008. Rydw i’n ymgyrchu ar y cyd gydag un ymgeisydd arall o Blaid Cymru yn erbyn pedwar ymgeisydd o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol ac un ymgeisydd o’r blaid Geidwadol. Mae’n debyg y bydd hyn yn ddiddorol gan fy mod yn adnabod nifer o’r ymgeiswyr eraill ac felly bydd hi’n anodd bod yn rhy gas; er dwi’n siŵr y buasai rhai yn dweud ei bod hi’n weddol anodd bod yn or-gyfeillgar chwaith. Fy mwriad yw cadw’n dawel am ryw wythnos (tra ar fy ngwyliau ym Mrwsel) a gwneud sbloets fawr ar ôl dod yn ôl. Dwi’n gobeithio nad yw hyn yn swnio’n rhy debyg i strategaeth ymgyrch aflwyddiannus Rudy Giuliani i fod yn ymgeisydd y Gweriniaethwyr ar gyfer arlywyddiaeth y Taleithiau Unedig.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael