Mwynhau gwleidydda
Dwi wedi newid fy meddwl am wleidyddiaeth. Yn lle troi fy nghefn ar y cyfan dwi’n dwlu ar wleidyddiaeth bellach. Pam? Am fy mod i newydd gwrdd â rhywun sy’n siarad Iseldireg a gafodd ei magu yn Fflandrys ac sy’n un o ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth – cydymgeisydd gyda fi. Roeddwn i’n cwrdd gyda hi heno er mwyn tynnu ei llun ar gyfer y daflen a dyma fi’n dechrau ei holi am ei chefndir er mwyn ysgrifennu rhyw bwt bach amdani a’r hyn a ddysgais oedd ei bod hi wedi bod yn byw yn Westerlo, swydd Antwerpen yn Fflandrys o’r amser pan oedd hi’n ddwy a hanner hyd nes ei bod yn ddeng mlwydd oed. Roedd hi wedi dychwelyd i Fflandrys wedyn am gyfnod i weithio yn Gent ac wedi bod yn astudio hefyd ym mhrifysgol Leiden (yr Iseldiroedd). Buon ni’n siarad mewn Iseldireg am ychydig ac roedd hi’n fy neall: dyna hwb i fy hyder a finnau ar gychwyn ar daith arall i Frwsel a Fflandrys ddydd Llun nesaf. Rydyn ni wedi cytuno y byddwn ni’n cwrdd wedi’r etholiad i roi gwersi i’n gilydd mewn Iseldireg a Chymraeg. Dwi’n edrych ymlaen i ymgyrchu yn ei chwmni. Ond wedyn yn sydyn cefais fy atgoffa o realiti gwleidydda. Roedd y ddau ohonom wedi cwrdd yn y Home Caffi, ac wrth inni eistedd yno’n siarad fe ddaeth ymgeisydd y Dem Rhyddiaid i mewn i ofyn am bleidlais ar gyfer yr etholiad i’r cyngor sir. Nage, nid un gyfres o wersi Iseldireg yw bywyd wedi’r cyfan. Eto i gyd wrth ymgyrchu byddaf yn cofio fod arweinydd y Dem Rhyddiaid ei hun yn siaradwr Iseldireg rhugl. Dwi’n credu fy mod i’n mynd i gael mwy o sbort nag yr oeddwn yn tybio.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Ik zou voor u stemmen!
Gobeitho bo ‘na’n gwneud sens – sdim Iseldireg gen i o gwbwl ond ifi’n folon treial!
Dank je wel, ceri wyn!