Pleidleisiwch i fi!

“Ble mae dy flog di wedi mynd?” yw’r cwestiwn dwi’n ei gael amlaf y dyddiau hyn. Wel, dwi’n ofni i ddweud taw cyfuniad o brysurdeb, salwch, crefydd a gwleidyddiaeth sy’n gyfrifol am dawelu fy llais blogaidd. Yn y lle cyntaf bues i’n teimlo’n dost gyda chric yn fy ngwddf am dri neu bedwar diwrnod. Roedd yn annioddefol ddydd Iau wythnos diwethaf – yr unig ddiwrnod y bues i yn y gwaith! Yn y prynhawn roeddwn i’n rhoi hyfforddiant ar gatalogio darluniau i gyd-weithwraig a dwi ddim yn gwybod yn iawn beth roeddwn i’n ei ddweud. Wrth i’r amser fynd yn ei flaen roedd fy ngwddf yn mynd yn fwy poenus a’r rheolau catalogio yn fwy dyrys! Dwi’n well bellach.

Er bod y Pasg drosodd mae digon i’w wneud yn yr eglwys o hyd. Roeddwn i’n pregethu nos Sul yng Nghanolfan Fethodistaidd S Paul ac felly roedd yn rhaid paratoi ar gyfer hynny. Hefyd dwi’n dal i fod yn gweithio ar wefan Eglwys y Santes Fair; ac fel warden mae’n rhaid bod yn barod ar gyfer cyfarfod cyffredinol blynyddol yr eglwys sy’n gael ei gynnal wedi’r gwasanaeth fore Sul nesaf. Does dim llawer o faterion mawr i’w trafod, ond mae angen mynd ati i wneud peth gwaith cadwraeth ar yr organ. Yn rhyfedd iawn er taw yn 1865-66 yr adeiladwyd yr eglwys ei hun, cafodd yr organ ei adeiladu tua 1840: roedd yn un o eglwysi eraill y plwyf tan iddyn nhw gael organ newydd yn 1892. Er bod peth newid wedi bod arno, mae’r organ yn ei gâs gwreiddiol, ac mae hynny’n dipyn o hynodbeth yn ôl a ddeallaf i. Oherwydd ei nodweddion hanesyddol yr ydym yn gobeithio denu arian oddi wrth gyrff sydd yn bodoli er mwyn cadw gwrthrychau o’r fath.

Ar ben hynny i gyd mae fy ngyrfa wleidyddol wedi dod yn fyw eto. Ar ôl siom etholiadau Cyngor Tref Aberystwyth bedair blynedd yn ôl pan ddes i o fewn trwch blewyn (a mwy) o gael fy ethol roeddwn i wedi dweud fy mod am roi y gorau i wleidyddiaeth a threulio fy amser yn gwneud pethau amgenach. Ond wrth i’r etholiadau ar gyfer y Cyngor Tref ddod yn nes roeddwn yn teimlo rhywbeth yn cyniwair o’m mewn: roeddwn yn teimlo’r alwad i fod yn rhan o ddemocratiaeth unwaith eto. Wedi fy mabwysiadu gan gangen Aberystwyth a Phenparcau fel ymgeisydd ar gyfer y cyngor tref yr wythnos ddiwethaf, fe aeth fy ffurflenni i ffwrdd i swyddog etholiadol Cyngor Sir Ceredigion heddiw, ac os ydw i wedi’u llenwi’n gywir – a doedd hynny ddim yn hawdd iawn – bydda i’n ymgeisydd swyddogol Plaid Cymru gyda’r hawl i ddefnyddio’r logo ar y papur pleidleisio erbyn dydd Mawrth yr wythnos nesaf.

Dyna fy mywyd cyffrous i! Pwy sy’n medro dod o hyd i amser i flogio pan fo cymaint o bethau eraill i’w gwneud?

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.67 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>