Dyddio capeli

Wyt ti erioed wedi ystyried a oes ‘na ffordd sustematig a gwyddonol o ddyddio capel? Paid â phoeni dim mwyach oherwydd fe ffeindies i gopi o daflen a gyhoeddwyd gan Capel: cymdeithas treftadaeth y capeli yr wythnos diwethaf. Fe ddes i ar ei thraws yng Nghanolfan Fethodistaidd S. Paul pan oeddwn i yno ar gyfer y gwasanaeth ddydd Gwener y Groglith. Taflen yw hi yn cyflwyno capeli Aberystwyth – 9 ohonynt i gyd (er bod 2 bellach wedi cau fel capeli: Tabernacl yn Stryd Powel, a St. Paul’s sydd bellach yn dafarn). Yr hyn sy’n ddiddorol am y daflen yw ei bod yn gosod allan ganllawiau ar gyfer dyddio capeli oddi wrth eu harddull bensaernïol. Yn ôl y daflen roedd capeli cynnar y 17g a’r 18g fel arfer yn ysguboriau neu fythynnod a newidiwyd i fod yn dai-cwrdd. Daeth y pwysau ar gyfer codi capeli pwrpasol oddi wrth y cynulleidfaoedd. Mae’r daflen yn nodi rhyw chwe chyfnod sylfaenol yn y 19g.

  • 1800: Y capeli cynnar gyda façade ar hyd y wal hiraf neu gynllun sgwâr [A]
  • capel_01

  • 1830au: Capeli awditoriwm gyda façade talcen [B]
  • capel_02

  • 1840au: Arddull glasurol [C]
  • capel_03

  • 1850au: Adfywiad Gothig [D]
  • capel_04

  • tua 1880: Cymysgedd o arddulliau cynnar [E]
  • capel_06

  • tua 1890: Gor-ormodedd Fictoraidd [F]
  • capel_05

Dyna ddiddorol. Os yw hynny wedi ennyn dy chwilfrydedd does dim byd gwell na throi at lyfr Anthony Jones, Welsh chapels, (1996); mae allan o brint erbyn hyn ond mae ar gael mewn siopau llyfrau ail-law ac mewn llyfrgelloedd, wrth gwrs.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (5 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5 allan o 5)

Gwneud sylw

Ni chaiff dy gyfeiriad e-bost fyth mo'i gyhoeddi na'i rannu. Nodir y meysydd hanfodol gyda *