Wythnos Fawr 2008

Y gynulleidfaDwi wedi bod yn dawel dros y dyddiau diwethaf hyn am nad ydw i wedi gwneud rhyw lawer iawn sy’n gyffrous. I ddweud y gwir ers nos Fercher dwi wedi treulio llawer o’m hamser mewn eglwysi a chapeli gan ei bod hi’n Wythnos Fawr ac yn Basg. Ym mhlwyf Aberystwyth mae’n arferol i gynnal gwasanaeth ar nos Lun, nos Fawrth a nos Fercher yr Wythnos Far – hynny yw yr wythnos sy’n arwain at Ddydd y Pasg. Wedyn ar y nos Iau bydd cyfarfod ar y cyd gydag eglwysi Cymraeg a Saesneg y dref yn cael ei gynnal ac ar fore Gwener y Groglith bydd gwasanaeth Cymraeg.

Paned wedi'r gwasanaeth

Nos Fercher roedd gwasanaeth y plwyf yn Eglwys y Santes Fair, ac fel warden roedd disgwyl imi fod yno. Doeddwn i ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i ffordd i gyrraedd Eglwys Llanychaearn ar gyfer gwasanaeth nos Lun, ac roedd gen i gyfarfod arall nos Fawrth. Roedd ‘na gynulleidfa go ddaw wedi dod ynghyd i Eglwys y Santes Fair i wrando ar Archddiacon Ceredigion, yr Hybarch Andy John yn siarad. Roedd y rhai oedd wedi bod yn y gwasanaethau blaenorol wedi canmol ei anerchiadau a doedd pethau ddim yn wahanol nos Fercher. Ei thema oedd y bobol yr oedd Iesu wedi dod ar eu traws wrth ddilyn y ffordd i’r groes. Wedi’r gwasanaeth cafwyd paned a chyfle i sgwrsio.

Bwrdd y Cymun, Capel y Morfa, Aberystwyth

Nos Iau roeddem ni yn ôl yng Nghapel y Morfa, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ar gyfer gwasanaeth cymun bendigaid dwyieithog. Roeddwn i wedi bod yma rhyw dair pedair blynedd yn ôl mewn gwasanaeth cymun ac wedi cael agoriad llygad. Doedd pethau ddim wedi newid rhyw lawer gyda choreograffi rhyfeddol y blaenoriaid wrth rannu’r elfennau yn dal i dynnu fy sylw. Mae arwain a llunio gwasanaeth dwyieithog yn medru bod yn ddigon anodd, ond dwi’n credu fod Pryderi Llwyd Jones, gweinidog Capel y Morfa, wedi llwyddo’n dda iawn. Does dim cyfieithu ar y pryd yn y gwasanaethau hyn, felly mae’r rhai sy’n deall Cymraeg yn medru dilyn popeth, ond mae’r rhai nad ydynt yn siŵr o fod yn teimlo ar goll ar brydiau. Siaradodd yr Hybarch Andy John unwaith eto. Roedd ei anerchiad yn Saesneg yn bennaf, ond fe llwyddodd i roi rhyw flas Cymraeg i’r peth wrth ddweud brawddeg fan hyn a fan acw yn yr iaith a hynny heb wneud i’r peth swnio’n nawddoglyd.

Canolfan Fethodistaidd S Paul

Fore Gwener wedyn roeddem ni yng Nghanolfan Fethodistaidd S Paul, cartref cynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg Methodistaidd (Welseyaidd) y dref. Ond y tro hwn ar gyfer gwasanaeth Cymraeg o ddarlleniadau ac emynau yn bennaf. Y peth sy’n aros yn fy nghof i am y gwasanaeth hwn yw un o’r emynau a ganwyd, i ddweud y gwir yr emyn olaf yn deg. Emyn gan William Williams, Pantycelyn oedd e. Mae’n emyn dwi wedi’i ganu o’r blaen, ond rywfodd neu’i gilydd fe wnaeth y geiriau argraff ddofn arna i’r bore hwnnw. Dyma’r pennill olaf.

O ras di-drai, diderfyn,
tragwyddol ei barhad;
yng nghlwyfau’r Oen fu farw
yn unig mae iachâd:
iachâd oddi wrth euogrwydd,
iachâd o ofnau’r bedd;
a chariad wedi ei wreiddio
ar sail tragwyddol hedd.

Rhagor o luniau o Nos Fercher yr Wythnos Fawr yn Eglwys y Santes Fair.

Rhagor o luniau o Ddydd Iau Cablyd yng Nghapel y Morfa.

Rhagor o luniau o Ddydd Gwener y Groglith yng Nghanolfan Fethodistaidd S. Paul.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.67 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Wythnos Fawr 2008

  • Delyth

    Emyn WW Pantycelyn (509 C.Ffydd) – dyma un o’m hoff emynau i! Mae’n wych yn dyw e, ac mae tôn David Jenkins, ‘Penlan’ yn ei siwtio i’r dim. (Ro’n i eisiau’i gynnwys e yn rhestr 10 uchaf emyn WW, ond ddim fel’ny buodd hi!)

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>