Un rheswm dros fy nhawelwch cymharol ar y blog dros y diwrnodau diwethaf yw fy mod wedi bod yn ail-lunio gwefan Eglwys y Santes Fair. Dwi wedi bod yn arbrofi ers tipyn gyda’r ffordd orau i wneud hynny. Yn y diwedd dwi wedi dilyn llwybr newydd o ddefnyddio’r feddalwedd flogio yr ydw i’n ei defnyddio, WordPress, fel rhyw fath o sustem rheoli cynnwys syml ar gyfer cyhoeddi gwefan. Bues i’n gwneud tipyn gyda Joomla!, meddalwedd wych (ac yn rhad ac am ddim!) ond roedd honno’n rhy gymhleth ac yn rhy fawr ar gyfer yr hyn roeddwn i ei angen. O’r diwedd dwi wedi dod o hyd i rywbeth dwi’n weddol hapus gydag e. Dwi’n gobeithio y bydd yn weddol hawdd cynnal y safle gyda WordPress. Cawn weld. Mae’r gwaith mawr drosodd nawr ac felly yr unig beth ar ôl yw neilltuo amser yn gyson i ychwanegu cynnwys. Ac wrth gwrs dwi’n dechrau cynllunio beth fydd y cam nesaf!




(5 yn pleidleisio, cyfartaledd: 3.40 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Mae’r wefan newydd yn edrych yn dda iawn.