Gorymdaith Dydd Gwener y Groglith

Gorymdaith Dydd Gwener y Groglith, 2008Dwi’n credu taw yn y flwyddyn 2000 y gorymdeithiodd Cristnogion Aberystwyth ar hyd y Stryd Fawr am y tro cyntaf Ddydd Gwener y Groglith. Wyth blynedd yn ddiweddarach mae wedi dod yn ‘draddodiad’. Fel arfer mae’r haul yn gwenu a’r torfeydd yn drwch ar y palmentydd. Doedd hi ddim felly eleni. Roedd glaw yn bygwth ac roedd y twristiaid yn chwilio am gysgod yn bell o’r Stryd Fawr. I bob pwrpas dim ond Cristnogion Aberystwyth oedd i’w gweld. Wedi darlleniad wrth Dŵr y Cloc ym mhen uchaf y dref dyma ddilyn y groes i gyfeiliant drwm i lawr hyd at Sgwâr Owain Glyn Dŵr. Fan ‘ny fe wnaeth y Major ym Myddin yr Iachawdwriaeth gyhoeddi’r efengyl ac fe ganwyd dau emyn. Disgrifir yr orymdaith fel gorymdaith o dystiolaeth ac mae hynny’n ddisgrifiad cywir iawn; yr hyn sy’n fwy diddorol yw bod bron pawb sy’n arddel enw Crist yn fodlon ymuno.

Rhagor o luniau’r orymdaith.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 2.33 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>