Wedi’r holl weithgaredd mae’n debyg y gallai Dydd y Pasg fod wedi bod ychydig yn fflat. Ond nid fel ‘na oedd hi o gwbwl. Bues i yn y gwasanaeth am 10.00am yn Eglwys y Santes Fair, Cymun teuluol. Roedd ‘na nifer go dda yno yn rhieni, plant ac eraill. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y rheithor ac fe wnaeth e annerch ar bwysigrwydd bod yn rhan o’r gadwyn o dystion i atgyfodiad Iesu. Cyn gorffen fe wnaed un ddefod bwysig, sef cyflyno wy Pasg i holl blant a phobol ifanc yr Ysgol Sul. Wedi’r gwasanaeth roedd croeso i bawb aros am baned a sgwrs. Roedd ‘na ymwelwyr yn ogystal â selogion yn yr eglwys ac roedd hi’n dda cael gair gyda nhw.
Yn y prynhawn roedd y drefn ychydig yn wahanol i’r arfer er mwyn nodi’r ffaith ein bod yn cadw gŵyl. Yn lle ein gwasanaeth arferol am 6.00pm fe ddaethom ynghyd am de yn y prynhawn am 4.00pm ac yna ymlaen i’n gwasanaeth arbennig o ddarlleniadau a chaneuon, Mawl y Pasg. Siaradodd un o ddarllenwyr lleyg yr eglwys yn y gwasanaeth ar arwyddocâd rhwygo llen y Deml o’r top i’r gwaelod pan bu farw Iesu ar y groes. Yn awr, yn hytrach na chael ein cadw allan o bresenoldeb Duw, fel y bwriadwyd y llen i’w wneud, y mae Iesu wedi agor ffordd inni ddod at Dduw.





![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael