Darllen a dysgu

Arlunydd PenygarnDwi wedi darllen yr ysgrif gyntaf allan o’r gyfrol i gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards, Cawr i’w genedl, sef un Allan James ar Arlunydd Penygarn. Fe wnes i ei chael hi’n erthygl ddiddorol dros ben, fel yr oedd T H Thomas, neu Arlunydd Penygarn ei hun. Dwi ddim yn siŵr pa ysgrif yr wyf am droi ati nesaf. Rwyf hefyd wedi ail-gychwyn ar ddarllen nofel Gareth F Williams, Dyfi Jyncshiyn : y dyn blin. Dechreuais ei darllen rhyw bedwar neu bump diwrnod yn ôl ac ildio cyn diwedd y bennod gyntaf bron â bod, ond dwi wedi rhoi cyfle arall iddi ac yn dechrau cael blas. A thrwy’r holl adeg, a phan nad ydw i’n darllen y ddau lyfr hyn ‘na, mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig wrth fy ochr er mwyn troi mewn iddo’n achlysurol. Dwi’n siŵr y buasai’n bosib ei gribo am gamgymeriadau ond mae’n llyfr llawer rhy arwyddocaol ar gyfer gwneud hynny iddo. Mae’n llawer gwell gen gribo trwy ei gynnwys yn fân i ddod o hyd i bob math o ffeithiau newydd y gallaf eu defnyddio mewn partïon ffurfiol er mwyn torri’r rhew. Er enghraifft heno, wrth bori trwy’r llythyren W fe ddysgais taw Wrddymbre yw enw Cymraeg Willington Worthebury, sef rhan ogledd-orllewinol Maelor Saesneg nad oedd gan 88.81% o’r trigolion unrhyw wybodaeth o’r Gymraeg yn 2001 ac o ganlyniad yn ieithyddol y mwyaf Seisnigedig o holl gymunedau bwrdeistref sirol Wrecsam. Diddorol.

Capel, Talwrn Green

Capel ym mhentref Talwrn Green sydd yng nghymuned Wrddymbre.
1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>