Amgueddfa Llydaw… ond dim Llydaweg

Champs Libres, RoazhonFel aelod o Gymdeithas yr Amgueddfeydd bydda i’n derbyn eu cylchgrawn misol Museums journal yn fisol, ond bob chwarter maen nhw’n cyhoeddi cylchgrawn arall, sef Museum practice. Mae’r ddau gylchgrawn yn dda iawn am adolygu arddangosfeydd ac amgueddfeydd newydd. Mae Museums journal ar y cyfan yn edrych ar yr hyn sy’n digwydd ym Mhrydain ac Iwerddon, ond mae Museum practice yn bwrw ei rwyd yn ehangach. Felly y mae gyda’r rhifyn diweddaraf, Gwanwyn 2008, a gyrhaeddodd heddiw. Un o’r prif erthyglau yw un am amgueddfa newydd Llydaw yn Roazhon (Rennes). Mae canolfan gelfyddydol newydd, Les champs libres, wedi’i hagor yn Roazhon ac ymhlith y sefydliadau mae cartref newydd Mirdi Breizh, neu Musée de Bretagne. Mewn erthygl sy’n ddigon canmoliaethus ar y cyfan, mae gan Helen Rees Lehay un paragraff trist iawn.

Wall texts are generally short and factual, primarily in French, with just a little English. (Breton is not an official language in France, and apart from one small exhibit devoted to its history and culture, is notable by its absence from the museum.) Longer and more layered information is available on nearby computers.

Fel ‘na gallai pethau fod wedi bod yng Nghymru oni bai bod rhai wedi mynnu fod pethau’n wahanol a bod y wladwriaeth Brydeinig, er gwaethaf ei dymuniad i fynnu teyrngarwch ac unffurfiaeth tebyg i Ffranic, wedi methu am amryw o resymau.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 5.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

4 sylw ar Amgueddfa Llydaw… ond dim Llydaweg

  • Ni fûm yn yr amgueddfa newydd, a byddwn yn disgwyl i’r Llydaweg gael ei hanwybyddu, fel arfer, ond yn ôl a ddeallaf, mae adran arbennig i lyfrau Llydaweg yn Les Champs Libres, ac yn ôl ‘Breizh-Llydaw’, rhifyn 44, Awst 2006,sy’n dilyn ‘Bremañ’, mae modd cael eich tywys o amgylch yr amgueddfa gan un o’r staff sy’n medru Llydaweg, sef Paskal… Y pryd hynny, ’ta p’un, y rhif oedd 02 23 40 66 00. Cofiaf siarad ag e pan ymwelais â’r amgueddfa yn ei hen adeilad. Mae llyfrgell sy’n arbenigo yn y Llydaweg newydd ei hagor yn Kawan ym Mro-Dreger (Trégor).

  • Elin

    Yn sicr, mae e’n engraifft clir o werth ymgyrchu ac o gyfraniad enfawr a hollbwysig y mudiad iaith yng Nghymru tros y blynydde.

  • Yn ôl yr wybodaeth dwi’n medru dod o hyd iddi fe agorwyd Les champs libres fis Mawrth 2006.

  • Pryd oedd yr amgueddfa Llydaw yn cael ei agoriad? Ron i yn Roazhon yn mis Tachwedd 2006 a weles i moni hi.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>