Neithiwr daeth tymor Gŵyl Dewi i ben gyda noson o gawl a chwilod yng nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth. Cangen Aberystwyth a Phenparcau o Blaid Cymru oedd wedi trefnu’r noson er mwyn codi arian tuag at yr ymgyrchoedd ar gyfer etholiadau’r cyngor sir a chyngor tref sy’n digwydd fis Mai. Mae noson o gawl tua’r adeg yma o’r flwyddyn yn rhywbeth mae’r gangen wedi’i wneud ers sawl blwyddyn bellach. Mae’n rhywbeth cartrefol lle mae oedolion a phlant yn medru mwynhau gyda’i gilydd. Eleni, wedi’r cawl, fe gawsom yrfa chwilod. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r gêm Chwilen y bwriad yw tynnu llun chwilen, ond er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid taflu dis. O daflu 6 cewch dynnu llun corff y chwilen, o daflu 5 cewch dynnu llun y pen – rhaid tynnu llun y corff cyn y gellir tynnu llun yn pen – yna 4 am ei chynffon, 3 (x6) ar gyfer y coesau, 2 (x2) am yr antenau ac 1 (x2) am y llygaid. Roedd ‘na chwech bwrdd yn chwarae, ond fel cystadleuwyr unigol. Ar ddiwedd y noson fi, Dogfael, oedd yn fuddugoliaethus! Fe wnes i fwynhau mas draw!
Ar gyfer y noson fe wnes i wneud cawl lentys sbeisllyd gyda chwmin a thomatos. Dyma’r rysait
Cawl lentys sbeisllyd gyda chwmin a thomatos
1 cnepyn o fenyn
2 llond llwy ford o olew’r olewydd gwyryfol iawn
1 winwnsyn wedi’i dorri’n fân
2 ewin o arlleg wedi’u sleisio
½ llond llwy de o hadau coriander
½ llond llwy de o hadau cwmin
1 litr o stoc llysiau
300 gram o lentys cochion
Tun 400g o domatos wed’i malu
Halen a phupur du newydd ei falu
Rhoi’r sosban ar wres canolig. Ychwanegu y menyn a’r olew, ac yna y winwnsyn, garlleg, hadau cwmni a hadau coriander. Eu ffrïo am 5 munud heb eu lliwio. Ychwanegu’r stoc a’r lentys, rhoi caead ar y sosban, a berwi ar wres isel am 10 munud. Ychwanegu’r tomatos a choginio am 15 munud hyd nes i’r lentys fod yn dyner. Yna malu’r cawl yn biwre gan ychwanegu pupur a halen yn ôl y galw.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael