Treth y cyngor 2008/09
Mae bil y dreth gyngor am y cyfnod 2008-04-01 hyd at 2009-03-31 wedi cyrraedd Plas-yn-Dogfael heddiw. Mae’r annedd ym mand C. Mae tri yn mynnu arian – Cyngor Sir Ceredigion sy’n mynnu’r swm uchaf, sef £733.66, wedyn Heddlu Dyfed Powys sy’n gofyn am £147.66, ac yn olaf Cyngor Tref Aberystwyth sydd am £56.31.
Gyda’r bil, fel arfer, daeth llawer o fwnff yn esbonio mewn ysgrifen ac ystadegau sut mae’r arian yn cael ei wario ac ar beth. Mae taflen Cyngor Sir Ceredigion ar ffurf calendr ac mae’n cynnwys rhai hysbysebion masnachol – syniad da siŵr o fod er mwyn cadw’r gost yn isel, ond trueni nad yw pob un o’r hysbysebion hynny yn Gymraeg! Mae’r rhan fwyaf o wariant y cyngor ar bedwar gwasanaeth: Addysg (£66m), Gwasanaethau cymdeithasol (£44m), Budd-daliadau (£16m) a Phriffyrdd a thrafnidiaeth ((£14m).
Stori debyg sydd gan Heddlu Dyfed Powys i’w hadrodd bob blwyddyn hefyd. Heddlu Dyfed Powys yw’r lle diogelaf yng Nghymru a Lloegr a does dim eisiau poeni am ddim – Ceredigion saffach. Ond ar daflen yr awdurdod maen nhw’n dweud taw £147.12 fydd cyfran treth y cyngor 2008/09 i’r heddlu ar gyfer anheddau ar fand C, ond ar y bil maen nhw’n gofyn am £147.66 a does dim esboniad pam eu bod nhw’n gofyn am fwy. Cawn wybod hefyd fod gan yr awdurdod bedair blaenoriaeth ar gyfer 2008-09:
- Cyffuriau dosbarth A;
- Troseddau treisgar;
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol; a
- Terfysgaeth ac eithafiaeth ddomestig.
Tybed beth fydd Cyngor Tref Aberystwyth yn ei wneud â’r £56.31?


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Dyma’r cyfanswm am anedd A yng Nghyngor Wandsworth:
Cyngor Wandsworth £248.19
Greater London Authority £202.59
Cyfanswm 450.78
Llai na Cheredigion a’r tal lleia yn Mhrydain meddan nhw ond ifi’n dal i gal trafferth idd’i dalu fe.
Dal gen i £532.66 i dalu o flynydda a fu -’subject to court proceedings’ ys gwetan nhw.
(Gobeithio wir y daw dydd y bydd cyfoethog y rhai tlawd – sef fi!!)
Diddorol ceri wyn. Yn Aberystwyth y swm ar gyfer annedd band A yw
Cyngor Ceredigion £550.25
Heddlu Dyfed Powys £110.24
Cyngor Tref Aberystwyth £42.24
Cyfanswm o £702.73.
Os wyt ti’n byw ar dy ben dy hun rwyt ti’n cael gostyngiad o 25%. Felly gallet ti fod yn talu rhywbeth fel £527.04. Mwy ‘na Llundain!