O gofio ei bod hi’n Ddiwrnod y Llyfr heddiw roedd hi’n bleser cael bod mewn cyfarfod i ddathlu cyhoeddi llyfr newydd neithiwr yn Aberaeron. Daeth cynulleidfa dda at ei gilydd yng Ngwesty’r Plu, Aberaeron i nodi cyhoeddi Cawr i’w genedl: cyfrol i gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards a olygwyd gan Tegwyn Jones a’r Dr Huw Walters. Roedd ystafell fawr y gwesty yn llawn wrth i selebs a gwreng eistedd blith draphlith ar gyfer noson o ddathlu. Dylai’r rhestr o’r rhai oedd yn siarad neu’n berfformio yn ystod y noson ddangos yn eglur beth oedd calibr y selebs oedd yn y digwyddiad – pob un yn A-list, fel petai PC Leslie Wynne yn ei ddweud.
- Tegwyn Jones (llywydd y noson)
- Y Dr Huw Walters
- Y Parchg Meirion Evans
- Yr Athro M Wynn Thomas
- Y Dr Rhidian Griffiths
- Mrs Myfanwy Evans
- T James Jones
- Yr Athro Prys Morgan
- Yr Athro Peredur Lynch
- Bethan Mair
- Yr Athro Hywel Teifi Edwards ei hun
Prin yw’r nosweithiau o’r fath yng Nghymru heddiw, ond roedd y gynulleidfa yr un mor arbennig, a dwi ddim yn dweud hynny dim ond am fyd mod i yno hefyd.
Mae’r gyfrol yn un ddifyr sy’n cynnwys astudiaethau ac ysgrifau gan nifer oedd yn siarad yn y noson. Dyma restr o gynnwys y llyfr:
Wyneb yr Haul yn Aber-arth, T. James Jones
H.T.E. gan Meirion Evans
‘Y Ganrif Fwyaf’ gan Peredur Lynch
Hywel Teifi gan Tegwyn Jones
Cywion Edward Lhwyd gan Brynley F. Roberts
Siôn Rhydderch a’r Eisteddfod gan A. Cynfael Lake
Iolo Morganwg a Chaethwasiaeth gan Geraint H. Jenkins
Lingen, Arnold a Palgrave: Tri Sais a’u Hagweddau at Gymru gan Prys Morgan
John Jones, Llangollen a’i Gyfnod gan Huw Walters
Y Fforman Grasol gan Rhidian Griffiths
Beirdd y Môr yn Oes Victoria gan E.G. Millward
Thomas Henry Thomas (Arlunydd Penygarn) gan Allan James
Cwm Rhondda a Cheinewydd: Croth a Chrud Diwygiad 1904-05 gan E. Wyn James
Tirluniau Dychymyg Gwenallt gan Christine James
R.S. Thomas: Claf Abercuawg? gan M. Wynn Thomas
Paham y Meddyliwn Heddiw yn y Ffordd a Wnawn? gan Walford Gealey
Llyfryddiaeth yr Athro Hywel Teifi Edwards gan Huw Walters
Roedd pob un o’r cyfranwyr yn bresennol, heblaw am yr Athro Geraint H Jenkins; roedd yntau yn Los Angeles yn ôl a glywais i. Rhaid cyfaddef fod y rhan fwyaf o’r teitlau yn swnio’n ddiddorol, ond yr erthygl gyntaf y byddaf yn ei darllen fydd un Allan James ar Arlunydd Penygarn.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael