Mae fy mag ysgwydd wedi torri oddi ar fy ymweliad â Brwsel dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd ac ers hynny dwi wedi bod yn cario fy mhwts arian, camera, llyfr nodiadau, &c. o gwmpas mewn sach archfarchnad o Frwsel y gellir ei hail-ddefnyddio. Ond roeddwn i’n gweld eisiau fy mag ysgwydd yn fawr ond wedi methu dod o hyd i siop yn Aberystwyth a oedd yn darparu rhai i’r ddau ryw. Bues i mewn sawl siop ond roedd y bagiau i gyd yn rhy ferchetaidd, hyd yn oed i fi! O’r diwedd fe fues i’n chwilio ar y we a dod o hyd i fagiau a wneir gan gwmni Jost o’r Almaen. Penderfynais fuddsoddi mewn bag ysgwydd bychan du mewn cynfas yn y gyfres Gobi. Dyma sut mae’n ymddangos ar wefan y cwmni – y lliw yn y llun yw ‘Oliv’, ond dwi wedi cael ‘Schwarz’.
Mae’r tu fewn yn oren gyda lle i bob math o bethau gan gynnwys poced ar gyfer ffôn symudol, camera, lle i’r pwts arian, poced fach arall lle dwi’n cadw fy llyfr nodiadau, a phoced gyda sip lle dwi’n rhoi’r batris ffres ar gyfer y camera. Dwi’n medru rhoi llyfr clawr papur maint arferol yn y bag hefyd. Dwi’n hapus iawn gyda fy mhwrcas a gefais ar wefan e-bags.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael