Mae gwynt y gwanwyn a gwynt y môr yn llenwi fy ffroenau yn Aberystwyth ac mae fy meddwl yn troi tuag at ein traddodiadau gorau ni fel cenedl – cerddoriaeth. A hithau’n dymor eisteddfodau cylch a sir Urdd Gobaith Cymru ni allwn i wneud dim ond canu. Felly, yn dilyn ar fy albwm Nadolig llwyddiannus a ryddhawyd rhyw ddwy flynedd yn ôl dwi wedi recordio fy hoff siantïau môr a chaneuon gwerin fel homage i Merêd. O dan y teitl Siantïau môr a chaneuon gwerin eraill gallwch fwynhau 10 o glasuron y werin yn eu purdeb. Heblaw am hyfforddiant Mr Voice flwyddyn yn ôl nid yw fy llais wedi’i drin mewn unrhyw fodd na’i sbwylio gan fasnachu diegwyddor fel ambell i ganwr a chantores y gallwn eu henwi petawn i’n teimlo fel gwneud. Na, yn hytrach, dyma sut y canwn ar fynyddoedd Preseli ac ar lannau afon Cleddau Ddu pan yn grwt ifanc – nid oes unrhyw embaras yma am ddiffyg techneg glasurol, dim ond afiaith un o’r werin yn canu anthemau ei ddosbarth yn ddilyffethair. Yr unig gân sydd efallai yn achos gofid yw ‘Deryn y Bwn’ sydd yn ei hanfod yn fawl i gyfalafiaeth bur. Mae’r gweddill un ai yn sôn am y môr, neu am gariad, neu’r ddau – fel yn achos y clasur ‘Ffarwél i ddociau Lerpwl’. Gwrandewch a mwynhewch ar drysorau cerddorol ein cenedl mewn gwisg gwbl naturiol!
| 1. Rownd yr Horn Ffeil MP3 File |
2. Adar mân y mynydd Ffeil MP3 File |
| 3. Dacw ‘nghariad Ffeil MP3 File |
4. Harbwr Corc Ffeil MP3 File |
| 5. Deryn y Bwn Ffeil MP3 File |
6. Mae ‘nghariad i’n Fenws Ffeil MP3 File |
| 7. Gwenno Penygelli Ffeil MP3 File |
8. Migldi magldi Ffeil MP3 File |
| 9. Ffarwél i ddociau Lerpwl Ffeil MP3 File |
10. Moliannwn Ffeil MP3 File |
Defnyddia’r chwaraewr isod i wrando ar yr holl draciau, un ar ôl y llall, heb orfod codi o dy sedd, neu i lwytho i lawr i dy iPod neu chwaraewr MP3 personol.
Siantïau môr a chaneuon gwerin eraill
Ffeil MP3 File


(2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.50 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Dwi’n meddwl dysle S.Mair ddechrau’r arfer o gael codwr canu a chti ddylse hwnnw fod – gai i awgrymu hynny yn festri’r Pasg?
Rhyfeddol!