Beth nesaf? Pwy a ŵyr?

Peter Robinson ac Ian PaisleyNewydd ddarllen ar wefan newyddion BBC fod y Parchg Ddr Ian Paisley i roi’r gorau i’w swydd fel prif weinidog gogledd Iwerddon fis Mai. Roedd hynny’n ddigon o sioc ynddo’i hun gan fy mod i yn un o blant y 1960au roedd Ian Paisley yn debyg i Wal Berlin – rhywbeth na fyddai byth yn dymchwel. Dwi’n ei gofio o hyd ar raglenni newyddion ddechrau’r 1970au yn uchel ei gloch.

Ond wedyn fe aeth y sioc yn fwy pan ddarllenais i’r deyrnged hon i’r Dr Paisley gan un o wleidyddion mwyaf amlwg Iwerddon,

The historic decision he took to go into government with Sinn Fein has changed the face of Irish politics forever. I think that he will be fondly remembered by the people of Ireland – north and south – for the very courageous leadership that he showed.

Pwy yw’r gwleidydd sydd yn credu y bydd pobol Iwerddon i gyd yn cofio’n annwyl am Ian Paisley? Neb llai na Martin McGuinness. Dwi’n ei chael hi’n anodd i gredu hynny, ond dyna sy’n cael ei ddweud ar wefan newyddion BBC.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>