Doedd y dathlu ddim drosodd eto. Gyda’r nos roedd Eglwys y Santes Fair yn cynnal swper agape i ddathlu Gŵyl Dewi sef cyfuniad o bryd o fwyd gyda gwasanaeth y Cymun Bendigaid. Mae hyn wedi dod yn dipyn o draddodiad bellach, ac mae’n ffordd arbennig iawn o gymuno ac o rannu cymdeithas o fewn i deulu’r eglwys. Eleni fe siaradodd y rheithor, Stuart Bell, am un o egwyddorion Dewi Sant sef ‘gwneud y pethau bychain’ – geiriau pregeth olaf Dewi os ydym i dderbyn traddodiad ei fuchedd. Yn ei sgwrs dangosodd y rheithor sut mae’n bosib cyflawni pethau mawr iawn dros Dduw o wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y pethau bychain. Noson hyfryd iawn.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael