Parhau i ddathlu Gŵyl Dewi

Gwyddoniadur CymruGan nad oedd Dydd Gŵyl Dewi yn syrthio ar ddiwrnod gwaith eleni roedd hi braidd yn anodd i feddwl am ffordd i wneud y dydd yn wahanol i’r gweddill. Ond yn y diwedd penderfynais taw dyma’r dydd i brynu fy nghopi o Wyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Fel mae’n digwydd roedd gen i docynnau llyfrau a oedd bron yn ddigon i dalu amdano yn Siop Inc, Aberystwyth lle mae’n cael ei werthu am bris gostyngol. Roeddwn i’n teimlo’n eithaf balch o fi fy hun wrth imi gerdded i mewn trwy byrth Plas-yn-Dogfael i arddangos fy mhryniad newydd. Pam? Wel am fod DML wedi archebu ei gopi yntau fisoedd yn ôl yn uniongyrchol oddi wrth Wasg Prifysgol Cymru a’i fod yn dal i ddisgwyl am ei gopi fis a mwy wedi’r dydd cyhoeddi. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i bori trwyddo a sylwi ar y nodweddion hynny sy’n dweud fod gan Dr John Davies (Bwlch-llan) ran bwysig i’w chwarae yn ei wneuthuriad. Y pethau dwi wedi edrych arnyn nhw’n fanwl hyd yn hyn yw’r mapiau o ffiniau cynghorau cymuned Cymru – difyr iawn.

Siop Inc, Heol y Bont, Aberystwyth

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>