Roedd y papurau Sul yn drwm o newyddion am y Tywysog Harry dros y penwythnos. Lluniau ohono yn bod yn ‘normal’ oedd yn cael y sylw. Dim ond ychydig oedd yn ceisio edrych y tu hwnt i’r dyn ifanc yn gwisgo’r cap gyda’r arwyddair “We do bad things to bad people” arno. Prin oedd y cwestiynau am pam fod y cyfryngau wedi penderfynu nad oedden nhw’n mynd i adrodd y newyddion amdano hyd nes bod yr awdurdodau yn dweud bod hynny’n iawn i’w wneud. Efallai bod hynny’n iawn yn achos busnesau preifat fel y papurau newyddion, ond beth am y BBC. Maen nhw â dyletswyddau stadudol, a oedd peidio â dweud am Harry yn cydfynd gyda’r dyletswyddau rheiny? Am rywbeth nad oedd yn ddigon pwysig i sôn amdano wrth iddo ddigwydd mae wedi cael llawer iawn gormod o sylw wedyn, ond dim llawer iawn o drafodaeth synhwyrol ac ystyrlon.
Efallai’r darn gorau imi ei ddarllen am yr holl beth oedd sylw gan filwr sydd wedi bod yn Irác ac Affganistan, Leo Docherty, yn yr Independent, o dan y pennawd ‘Harry’s War’: The ugly truth. Dyma un dyfyniad byr i roi blas ar eu sylwadau.
The Gurkhas working with Harry have, to his delight, treated him like any other officer, probably for the first time ever. Indeed as Harry said himself: “This is about as normal as I’m ever going to get.”
Did he say normal? If dropping bombs on Afghans and fighting from a base in Helmand is as close as Harry will ever get to normal life, then it’s a sad indictment of his existence back home. But the real point here is that life for Afghans in Garmsir has been very far from normal since we Brits arrived.
Mae’n werth darllen yn gweddill.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael