Un o’r rowndiau yn y cwis nos Wener yn Nhal-y-bont oedd un ar Dewi Sant. Gan ei bod hi’n ddydd Gŵyl Dewi ddoe dwi am rannu’r cwis gyda chi. Mae’r atebion ar waelod y cofnod.
- Pwy oedd tad Dewi?
- Pwy oedd athro Dewi yr iachaodd yn wyrthiol o’i ddallineb?
- Fe aeth Dewi ar bererindod i Rufain gan fynd â dau o’i gyfeillion yn gwmni. Enwch un o’r ddau.
- Yn ôl traddodiad beth oedd hoff ddiod Dewi Sant – seidr, cwrw, neu ddŵr?
- Beth oedd enw’r llecyn yn Nhyddewi lle cododd Dewi ei eglwys?
- Ble cynhaliwyd y cyfarfod lle roedd Dewi yn pregethu ac y cododd y ddaear o dan ei draed?
- Yn y synod honno yr oedd yn pregethu yn erbyn syniadau un gŵr yn benodol. Pwy oedd hwnnw?
- Pwy a ysgrifennodd hanes bywyd neu fuchedd Dewi?
- Fel arfer mewn darluniau caiff Dewi Sant ei ddangos yng nghwmni creadur, pa un?
- Beth yw lliwiau baner Dewi Sant?
1. Sant, neu Sandde, Brenin Ceredigion; 2. Paulinus, neu Peulin; 3. Teilo a Padarn; 4. Dŵr; 5. Glyn Rhosyn; 6. Llandddewibrefi; 7. Pelagius, neu Morgan; 8. Rhigyfarch, 1057-1099; 9. Colomen; 10. Du a melyn (aur).



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








8 allan o 10. Llongyfarchiadau mawr. Dim marc ychwanegol am Padarn dwi’n ofni, ond clod a bri yn dalpiau. Diolch am gymryd rhan yn y cwis, Sara.
Pwy oedd tad Dewi?
Brenin ceredigion?
Pwy oedd athro Dewi yr iachaodd yn wyrthiol o’i ddallineb?
Peilun
Fe aeth Dewi ar bererindod i Rufain gan fynd â dau o’i gyfeillion yn gwmni. Enwch un o’r ddau.
Teilo! (allai gal pwynt bonws am Badarn?)
Yn ôl traddodiad beth oedd hoff ddiod Dewi Sant – seidr, cwrw, neu ddŵr?
Dwr
Beth oedd enw’r llecyn yn Nhyddewi lle cododd Dewi ei eglwys?
Glyn Rhosyn
Ble cynhaliwyd y cyfarfod lle roedd Dewi yn pregethu ac y cododd y ddaear o dan ei draed?
Hen dy gwyn
Yn y synod honno yr oedd yn pregethu yn erbyn syniadau un gŵr yn benodol. Pwy oedd hwnnw?
?
Pwy a ysgrifennodd hanes bywyd neu fuchedd Dewi?
Rhigyfarch
Fel arfer mewn darluniau caiff Dewi Sant ei ddangos yng nghwmni creadur, pa un?
Colomen wen
Beth yw lliwiau baner Dewi Sant?
Du a melyn