Dwi wedi cael penwythnos prysur, dwi wedi bod y fan hyn a’r fan ‘co yn gwneud y peth hyn a’r peth arall. Dechreuodd y cyfan nos Wener, 29 Chwefror, pan es i allan i Dal-y-bont i gynnal noson ar gyfer y Clwb Nos Wener sy’n cwrdd yn y Llew Du yno. Roeddwn i wedi paratoi cwis tafarn. Roeddwn i’n tybio y byddwn i’n adnabod y rhan fwyaf a fyddai yno ac ni chefais fy siomi. Ond fe gafwyd noson ardderchog ac fe wnes i fwynhau mas draw. Dwi ddim yn gwybod am y pynters eu hunain, ond roeddwn i’n credu fod ‘na ysbryd reit dda yno ac fe wnaeth pawb ymroi i’r cwis. Cyn mynd i’r cwis roeddwn i wedi cael gwahoddiad i swper gan gyd-weithiwr a’i deulu ac roedd hynny’n brofiad dymunol iawn. Wedi swper fe dreuliasom beth amser yn edrych ar Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Dwi ddim wedi prynu copi eto, ond mae’n debyg y bydda i’n gwneud hynny cyn bo hir. Wedi’r cwis ges i lifft yn ôl i’r dref o Dal-y-bont. Weithiau dwi’n holi fy hunan pam nad ydw i’n dweud ‘na’ weithiau, ond ar ôl noson fel nos Wener a nos Fercher cyn hynny dwi’n gwybod pam.
Pawb yn gweithio’n galed yn datrys anagramau yn y cwis.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael